Ailddysgu

Saturday 10 November 2012

Methu plannu hadau yn yr ardd a tacluso’r tŷ gwydr


Dyma’r amser o’r flwyddyn i baratoi am flwyddyn nesa.  Felly, mae’ r garlleg yn mynd i mewn ym mis Hydref – mae rhaid iddyn nhwn cael tywydd oer i lwyddianu.  Mae’r tywydd wedi bod yn wlyb iawn am ryw dair wythnos rŵan.  Serch hynny, llwyddiais i blanu’r garlleg – dau wahannol fath.  Ond pwy a ŵyr os bydden nhw’n iawn yn y pridd gwlyb?

Ond stori arall ydy’r ffa a’r pŷs.  Fel arfer dwi ddim yn tyfu pŷs; eleni ron i eisiau trio rhoi’r rhain i fewn yn yr Hydref hefyd – ond d’oedd dim lawer o siawns gyda’r tywydd.  Bob tro roedd gen i amser, roedd hi’n bwrw, neu roedd y pridd yn rhy wlyb.  Mae hi rhy hwyr rŵan I’r pŷs dwi’n meddwl, ond mae ffa llydan ym medru mynd i fewn hyd at diwedd mis Tachwedd.  Felly, penwythnos diwethaf, a’r pridd yn wlyb o hyd, mi gymerais cyngor Monty Don, o Garderners’ World a rhois ffa yn y tŷ gwydr i ddechrau tyfu mewn potiau, rhywle sych, cysgodlyd.  Dwi erioed wedi gwneud hyn o’r blaen, felly gawn ni weld sut byddan nhw.  Y syniad ydy I drawsblanu nhw I’r ardd pan mae nhw wedi dechrau tyfu a’r tywydd yn well.

Tra roedden yn yn ty gwydr, dechreuais tacluso dipyn.  Does byth ddigon o amser yn ystof y tymor tyfu.  A dwi ddim yn rhywun daclus ofnadwy, chwaith.  Ond mae o’n bwysig clirio i fynny dipyn.  
A dyma sut mae o’n edrych ar y funud. 



 Y rhan fwyaf o’r blanhigion wedi mynd, ond dipyn o salad ar ol, a hefyd pupurau ac aubergines – ond mae rhaid cymryd gofal efo rhain, neu mae llwydni yn datblygu arnyn nhw, r’amser yma o’r flwyddyn.  Felly roedd rhaid i fi casglu rhai ohonnyn nhw, a dyma nhw.

2 Comments:

At 11 November 2012 at 14:44 , Blogger Wilias said...

Cnwd o aubergines a phupur coch i ymfalchio ynddyn nhw. Mae fy nhy gwydr i yn llawn o gadeiriau a theganau a rwtsh ar hyn o bryd, twt lol, bydd yn rhaid gwneud ymdrech erbyn y gwanwyn!

 
At 23 November 2012 at 23:48 , Blogger Ann Jones said...

Ateb hwyr, hwyr, ond i ddweud diolch, ac ia, mae'n werth cael y ty gwydr yn gweithio fel ty gwydr! :-). Dan ni'n ffodus iawn, iawn, wedi etifeddu ty gwydr enfawr Fictorianaidd gyda'r ty. Bydde prynu ty gwydr fel hwn yn costio ffortiwn, a dwi'n gwerthfawrogi o yn fawr iawn. Ar y llaw arall, mae angen ei beintio a.y.y.b.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home