Ailddysgu

Wednesday 21 November 2012

Pethau Cymraeg diweddar


Fel arfer dwi’n trio cyfrannu at y blog bob wythnos, weithiau mwy, os bosib.  Ond yn ddiweddar, dwi ddim wedi cael llawer o amser.  Felly dyma rhai gofnodion am bethau dwi wedi bod yn gnweud: pethau Cymraeg y tro yma – a efallai dipyn am arddio eto tro nesaf. 

Es i gwrs undydd Cymraeg ar ddechrau’r mis a wedyn, y nos Sadwrn ganlynol, es i weld a chlywed Dafydd Iwan yn y Ganolfan Cymry Llyndain.  Roedd o’n ardderchog, a llawn o egni.  A braf iawn roedd clywed yr hen ganeuon yn ogystal a rhai fwy ddiweddar.  Ddois yn ol gyda dau CD newydd (newydd i fi, beth bynnag). 

Dwi ddim wedi son am y cwrs (Cwrs Maestroli trwy’r post, Prifysgol Bangor) ers dipyn, ac i ddweud y gwir, dwi wedi bod yn gweithio arno fo braidd yn araf.  Ar yr un llaw, does dim cwrs arall i’w ddilyn, felly dwi ddim eisiau gorffen fo, ond, os dwi am sefyll yr arholiad uwch, bydd angen amser i baratoi ar gyfer hynny. Felly, ar ol gorffen y bedwaredd ar bymtheg uned, bydd ond un uned ar ol.  Yn bendant mae o’n gwrs dda iawn a dwi wedi mwynhau gweithio arno fo.

Mae fy rhestr ‘Dolig o lyfrau Cymraeg yn tyfu.  Dyma beth sydd ar y rhestr byr a hir ar y funud: (1-4 ydy’r rhestr byr)
1.     Hanas Gwanas (gan Bethan Gwanas);
2.     Cyw Melyn (gan Gwen Parrott);
3.     Saer Doliau (Gwenlyn Parry)
4.     Heulfan, (Llwyd Owen)

5.     Y Storiwr gan Jon Gower
6.     Blasu gan Manon Steffan Ros
7.     Ddynes Dirgel (Mihangel Morgan)
8.     Draw Dros y Tonnau Bach (Alun Jones);
9.     Mab y Cychwr (Haf Llewelyn)

Dwi am brynu y pedwar gyntaf, yn bendant.  Dwi wedi mwynhau BOB llyfr gan Bethan Gwanas, a dwi’n edrych ymlaen at darllen ei hunangofiant.  A fel mae’r criw bach sy’n darllen hwn yn gwybod, dwi’n hoff o lyfrau ditectif, felly mi fyddai yn prynu llyfrau newydd Gwen Parrott a Llwyd Owen (er wnes i ddim fwynhau y llyfr diwethat Llwyd Owen gymaint a’r lleill).  Pam ydy drama Gwenlyn Parry ar y rhestr?  Oherwydd fy mod am fynd i weld perfformiad yn Llundain, yn y Gymraeg, ym mis Chwefror. A dwi’n meddwl fy mod am wneud adolygiad ar gyfer y portffolio sydd yn rhan o’r  Arholiad Uwch. Dwi ddim yn sicr wnai brynu’r llyfrau eraill ar y rhestr, felly os dach chi wedi eu ddarllen nhw, mi faswn yn hoffi cael eich syniadau ac awgrymiadau. 


Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg dim wedi bod yn gwylio Hwb, (S4C) sydd ar gyfer dysgwyr, a sydd newydd orffen.  Dwi wedi bod yn ei gwylio – a dwi’n meddwl ei fod yn ardderchog.  Dyma her mawr.  Sut i wneud un raglan ar gyfer dysgwyr – i gyd gyda gwahannol brofiadau : rhai yn ddechrewyr, eraill yn brofiadol yn y Gymraeg.  Yn fy marn i, mae Hwb wedi ateb y her yma mewn ffordd ardderchog – gyda amrywiaeth o gyfweliadau diddorol, dysgwr (Matt) yn y stiwdio, dysgwr yr wythnos, tips am dysgu Cymraeg, pethau doniol fel y gwers Cymraeg – a hefyd, wrth gwrs, Nia Parry wastad yn fwydfrydig.  Er bod hwb wedi gorffen am dipyn, mae cyfres arall o Ar Lafar wedi dechrau.  Gwych!  A mwy am hwnna tro nesa, efallai.

2 Comments:

At 23 November 2012 at 06:12 , Blogger Rhys Wynne said...

Na, dw i ddim yn meddwl bod llawer o siaradwyr rhugl yn gwylio Hwb, ond bues i'n gwylio'r gyfres gyntaf (ro'n i'n gweithio fel isdeitlydd ar y pryd) ac yn meddwl ei fod y dda iawn ar gyfer pontio'r holl lefelau. Roedd hefyd yn ymddangos fel eu bod wedi llwyddo cysylltu a'r gynulliedfa'n llwyddianus drwy rwydweithiau cymdeithasol, a defnyddior' ymateb i lywio cynnwys rhaglenni dilynol.

Do'n i erioed wedi clywed am Saer Doliau o'r blaen, diolch am fy nghyfeirio ato. Sgwn i os berfformiwyd hi yng Nghymru y tro yma - ch;ywias i ddim son?

Bydd rhiad i mi ychwanegu'r ddrama at y Wicipedia Cymraeg.

 
At 23 November 2012 at 23:45 , Blogger Ann Jones said...

Diolch, Rhys. Doeddwn i ddim wedi clywed am y drama o'r blaen chwaith, nag am gwmni Vertigo, ond 'roedd yna hysbyseb pan es i weld Dagydd Iwan - sy'n cefnogi'r digwyddiad - a felly siawns ardderchog i gael gweld perfformiad o ddrama glasurol yn Lloegr yn y Gymraeg. Does dim son ar wefan Vertigo am gwneud perfformiad yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home