Ailddysgu

Wednesday 29 October 2014

Radio Cymru

Mae nifer gwrandawyr radio Cymru wedi gostwngDwi ddim yn cael llwer o gyfle i wrando yn ddiweddar – hyd yn oed dim ar yr holl bethau am Dylan Thomas.  A dwi ddim yn siŵr fy mod yn ôr-hoff o’r newidiadau sydd wedi dod.  Rhaid dweud dwi ddim yn hoff o Tomo o gwbl – a dwi wedi clywed un neu ddau sydd ddim yn hoff o Tudur Owen (dwi’n ei hoffi).  Ond dwi yn gweld bod ‘na broblem efalla gyda rhaglenni sydd mor hir.  Os dwyt ti ddim yn hoffi rywbeth (fel Tomo!) mae o’n mynd ymlaen am oes.  Ar y llaw arall, dwi’n falch bod Taro’r Post yna o hyd, a weithiau yn medru gwrando ar dipyn yn y gwaith dros amser cinio.  Ond dwi’n gwneud y ran fwyaf o fy ngwrando ar fy meic yn mynd i’r gwaith.  A diolch byth bod rhaglenni fel  Dewi Llwyd ar Fore Sul  ar gael fel podleidiau.  Gan eu fod nhw ar gael fel yma, dwi’n medru gwrando arnyn nhw ar yr iPhone wrth beicio.  Mae’r Cymraeg yn dda, mae o’n gyfle dda i ddal i fynny efo’r newyddion o safbwynt Cymreig a mae  gwestai penblwydd Dewi Llwyd yn ddiddorol iawn.  Dwi’n dysgu llawer wrth wrando.

Fel enghraifft, doedd gen i ddim clem bod Gwilym Bowen Rhys, sy’n chwarae gyda’r band Bandana a hefyd gyda Ply yn gwneud clocsiau.  A dyma llun o un ohonnyn nhw.



A 'falle mi fydda i ar y radio am ychydig o funudau hefyd.  Mi ges i ebost gan Radio Cymru yn gofyn faswn i’n fodlon cymryd rhan mewn rhaglen am ddysgu Cymraeg, rhaglen Dan yr Wyneb gyda Dylan IorwethFelly dwi wedi siarad am ddysgu Cymraeg dros y ffon.  A dwi’n credu bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu ar Tachwedd 3ydd – 18.15.  Efalla bydd y sgwrs wedi cytogi, neu dim yna o gwbl – ond gawn i weld.  Beth bynnag, mi roedd yn brofiad diddorol (ond wrth gwrs, ar ol i'r galwad ffon orffen, roeddwn yn meddwl o atebion gwell o lawer i’r cwestiynnau) a mi fydd yn ddiddorol clywed hanesion dysgwyr amrywiol.

1 Comments:

At 29 October 2014 at 14:23 , Blogger Wilias said...

Mae angen mwy o bodlediadau gan Radio Cymru. Ar ipod ar y ffordd i'r gwaith dwi'n gwrando'n aml iawn hefyd. Mewn dôs bach, dwi'n eitha' hoff o Tommo fel cwmpeini wrth yrru o le i le yn y pnawn. Efallai bysa'r cerddoriaeth barhaol yn y cefndir a'r caneuon canol-y-ffordd yn gyrru fi'n wirion taswn i'n gwrando am dair awr!
Dwi'n edrych ymlaen i glywed Dan yr Wyneb.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home