Fel soniais i mewn post cynt, mi wnes i ryw fath o gyfweliad dros y ffon ar gyfer y rhanglen Dan yr Wyneb sydd newydd ailddechrau ar ol dipyn bach o hoe. A’r rheswm fy mod i’n siarad ar y rhaglen ydy bod y rhaglen yn trin dysgu Cymraeg. Mae podcast o’r rhaglen i’w gael yn fama (mae rhan bach fi yn digwydd ar ol ryw hanner awr). Yn y rhaglen mae Helen Prosser a Ioan Talfryn yn siarad gyda Dylan Iorweth, a fel mae o’n esbonio, mae newidiau mawr ar y gweill, a bydd un corff yn unig yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i Oedolion yn hytrach na’r 6 canolfan sydd yn bodoli ar y funud.
Mae sut i wella sefyllfa’r Cymraeg yn gwestiwn anodd sydd wedi cael ei drafod gymaint ar wahanol amseroedd - a dydy’r gweithredoedd sydd wedi cael eu sefydlu dim wedi gwneud digon o wahaniaeth hyd at hyn - a rŵan mae llawer llai o arian ar gael.
Dydy o ddim yn sefyllfa hawdd i’w newid. Ond roedd dau beth yn drawiadol (i fi, beth bynnag): yn gyntaf, Ioan Talfryn yn dweud bod y rhai sydd yn llwyddianus yn dysgu Cymraeg yn medru/neu yn barod i roi’r amser i mewn. Mae’n amlwg bod dysgu iaith yn cymryd llawer o amser os dan ni’n meddwl am y peth - ond weithiau dydy hyn ddim yn cael ei gydnabod. A’r ail ydy’r ffordd mae is-ganghellor Bangor, John Hughes, wedi dysgu’r iaith mewn amser digon byr.
A medra i ddim gweld bod gan is-ganghellor llawer o amser.
Beth bynnag - digon o bethau i feddwl amdanynt yn ystod y rhaglen. Bydd rhaid i fi wrando arno hi eto. Os gennych chi syniadau am sut i wella sefyllfa’r Cymraeg, rhowch wybod.
1 Comments:
Da iawn, newydd wrando ar dy gyfraniad i 'Dan Yr Wyneb' diddorol iawn.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home