Ailddysgu

Sunday 2 November 2014

Ysgol undydd yn Llundain

Fel dwi wedi dweud yma o’r blaen, dwi’n mynd i’r cyrsiau undydd yn Llundain pan yn bosib.  Mae o fel petai yn rhoi ryw ynys fach o Gymraeg o’m gwmpas am diwrnod – heb teithio rhy bell.  Felly ddoe roedd y cwrs ddiweddar, a mi es gyda fy ffrind Jan sydd hefyd yn gweithio yn y Prifysgol Agored ac yn dysgu Cymraeg.  Mae hi wedi bod ati am ryw ddwy flynedd bellach – ac yn gwneud yn dda iawn.  Gyda merch yn byw wrth yml Llandeilo sydd wedi priodi i fewn i deulu Cymraeg, mae hi eisiau medru siarad Cymraeg gyda ei fab-yng-nghyfraith, ond yn enwedig gyda ei ŵyr bach, sydd yn dechrau siarad rŵan.

Bob tro dwi’n mynd i’r cwrs Llundain, dwi’n meddwl dipyn am beth dwi eisiau allan o’r diwrnod – wedy’r cyfan, dydy un dydd ddim yn hir iawn a mae o’n mynd yn gyflym.  Gwen Rice sydd yn dysgu y grwp uwch fel arfer, a dwi wedi mwynhau y gwaith dan ni’n gwneud gyda hi: yn aml ryw gymysgedd o bethau gramadegol digon heriol (i fi), a hefyd cyfle i siarad a trafod gwahannol pynciau mewn parau neu grwpiau bach.  Fel wyddoch chi, mae wastad angen i fi wneud dipyn o ramadeg.

Ddoe, Siôn Aled oedd y tiwtor. Roedd Siôn wedi gosod ryw darn fach o waith i ni ei drafod: paratoi i siarad am y canlynol: “pa gymeriad mewn hanes hoffwch chi ei gyfarfod/chyfarfod? Pam? Pa fath o gwestiynau fyddech chi’n eu gofyn i’r person?”  Gyda Nantgwrtheyrn yn fy meddwl, mae’n siwr, fy syniad i oedd siarad gydag un o drigolion Tre’r Ceiri, yn ystod y cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid yn Segontiwm.  O be dwi’n dallt, mae tystiolaeth bod trigolion Tre’r Ceiri yna yn y cyfnod hwn.  Tybed roedden nhw’n masnachu gyda’r Rhufeiniaid?  Tybed sut bywydau oeddent yn byw?  (Dan ni ddim yn gwybod os oedd y pentrefwyr yno trwy’r flwyddyn, hyd yn oed).

Yn ystod gweddill y diwrnod, mi wnaethon ni drafod dipyn o hanes Cymraeg a diwylliant Cymraeg (traddodiadau Nadolig) a cyn hynny dipyn o adolygu treigliadau trwy gwneud ymarferion – darganfod y gwallau a wedyn chwilio am treigliadau mewn darnau eraill a esbonio be oedd yn achosi’r treigliadau.  Dipyn o her i fi.  Mi wnes i erioed dysgu rheolau treigliadau.  Erbyn hyn, dwi wedi trio dysgu rhai o’r rheolau, ond mae’n rhaid dweud dwi ddim yn ei cael o’n hawdd o gwbl.  Ac i wneud o’n waeth, gyda llawer o eiriau (y rhan fwyaf, dwi’n meddwl) dwi ddim yn gwybod os ydy’r gair yn fenywaidd neu yn wrywaidd – felly mae hynny’r broblem mawr.  Beth bynnag, mi roeddwn yn medru gweld y cangymeriadau (y rhan fwyaf) yn yr ymarfer gyntaf, ond roedd esbonio pam roedd treigliad yn digwydd yn y trydydd ymarfer yn anoddach o lawer.  Dyna sut beth ydy dysgu iaith, am wn i.  Er eich bod chi’n gwella, mae rhai pethau yn heriol o hyd a phroblemau newydd yn codi.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home