Roedden
ni yn Ludlow dros y benwythnos diwethaf, i ymweld ffrind sydd yn sal, a gan fod
y ci gyda ni (mae o rhy hen i adael rŵan) a dydy o ddim yn medru cerdded i
fynny grisiau, roedd rhaid cael rhywle i aros lle roedd croeso i’r ci, a dim
grisiau. Felly, wnaethon ni aros yn “Y Feathers“. A mae rhai
o’r ystafellau yn anhygoel. Dyma lluniau o ddwy ohonnyn nhw.
Roedd o’n
lle hyfryd i aros i grwydro’r dre pan nad oedden yn ymweld a’n ffrind, hefyd.
Dwi wastad wedi bod yn hoff o Ludlow, ond dwi’n amau nad oedd y pobl a
oedd yn byw mewn llefydd fel Y Feathers yn gefnogol i’r Cymry ar y pryd.
Ac o Ludlow mae taith cerdded hyfryd yn
dechrau - taith o’r enw The Mortimer Trail.
Dwi wedi cerdded y taith yma dwy waith, ond dim yn ddiweddar. A
dyma ychydig o luniau o’r taith:
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home