Dyddiau gaeafol
Fel mae'n amlwg, dwi ddim wedi llwyddo i flogio yn ddiweddar. Rywsut mae bywyd wedi bod yn brysur iawn - a dwi ddim wedi cael llawer o amser.
Ond heddiw, ar ol cinio, mi es allan dros y comin gyda'r ci. Roedd y prynhawn yn hyfryd, gyda golau arbennig - a'r lliwiau y coed, a'r caeau yn edrych mor hardd. Doedd neb i'w gweld, ond y ci a fi, a distawrwydd ym mhob man, er, clywais tylluan yn hwtio - rhywbeth annisgwyl yn y prynhawn. Dyma ychydig o luniau, yn gyntaf, o'r afon:
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home