Ailddysgu

Monday 22 December 2014

Llyfrau i ddarllen dros y Nadolig ac yn y blwyddyn newydd

Ychydig o amser yn ol, roedd rhaglen Tudur Owen (ar radio Cymru) yn dod o’r siop llyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.  Fel dwi wedi son o’r blaen, mae’r siop yma yn ardderchog - ac y hytrach na rhoi pres i Amazon (sydd ddim yn talu’r trethi y ddylen nhw a dim yn trin eu gweithwyr yn dda) dwi’n archeb llyfrau o Palas Print, trwy’r post.

Beth bynnag, dim syrpreis, ond roedd cryn dipyn o siarad am lyfrau - yn cynnwys hunangofiant Rhys Meirion:Stopio’r Byd am Funud Fach .  Dwi wedi clywed adolygiad da iawn am y llyfr rhywle arall hefyd.  Felly, i fi, un i’w ddarllen yn 2015.

Llyfr arall swn i’n hoffi darllen (ond dim wedi ei brynu eto) ydy llyfr gan Rhys Mwyn – Cam i’r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru.  Roedd Rhys ym Mhalas Print i ddrafod y llyfr - mae’r llyfr yma yn bendant am fy rhestr, yn enwedig gan bod y safleoedd mae o’n trin yn y llyfr ddim rhy bell o fy hen fro i.

Roedd son hefyd am lyfr gan Sion Hughes – Llythyrau yn y llwch - a mi wnes i wrando ar y rhaglen Silff Llyfrau a oedd yn ei drafod.  Dwi ddim yn siwr, o’r adolygiad, os byddaf yn hoff o’r nofel yma.  Ond nofel dwi wir eisio darllen ydy’r nofel ddiweddaf Manon Steffan Ros – Llanw.  Gan fy mod yn mynd i Gaernarfon yn y blwyddyn newydd, dwi’n gobeithio prynu’r llyfr bryd yna.

Yn y cyfamser, mae na ddau lyfr Gymraeg sydd wedi cyrraedd yn y post.  Lleucu Roberts - “Rhwng Edafedd“, a Llwyd Owen, “Y Ddyled“.  



Dwi wedi mwynhau gymaint o lyfrau gan Llwyd Owen ond dim wedi darllen llyfr ganddo fo yn ddiweddar, a roedd aeilodau yn y clwb darllen Llundain a oedd wedi darllen llyfr Lleucu Roberts yn dweud ei bod mor dda.

Ac i orffen - rhywbeth gwbl gwanahol.  Dyma salad wedi ei gwneud o ddail yn tyfu yn y tŷ gwydr - a ychydig o’r pupurau.  


Mae o’n wych cael salad o’r ardd amser yma o’r flwyddyn.  Dydy’r dail ddim yn tyfu’n gyflym felly bydd na ddim ormod o brydau i’w gael o’r dail - ond gan bod Dolig rownd y gornel, amser dechrau torri’r dail!  



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home