Mae'r taith cerdded boreuol (os dwi ddim yn mynd i'r gwaith) fel arfer yn cynnwys y commin, hen fynwent a wedyn llwybr ger yr afon. Mae'r profiad yn gyfuniad o sawl beth:
1) Yn gyntaf - ymarfer corff i fi ac i fo (er ei fod yn undeg pedwar, mae o’n cerdded am ryw awren yn y bore, a wedyn am ryw awr neu neu falle war a hanner neu ddwy yn y p’nawn )
2) Cyfle i weld beth sydd o gwmpas o ran bywyd gwyllt - adar fel arfer. Os ydwi’n gweld las y ddorlan, dwi wrth fy modd - ond dydy hynny ddim yn digwydd rhy aml. Ond dwi yn gweld y cudyll goch yn eitha aml a weithiau bwncath, ac os dwi’n ffodus iawn, iawn, barcud coch. (A digon o adar eraill)
3) Cyfle i ddysgu mwy am tynnu lluniau ac am y camera, ac i ymarfer. Mi brynais y camera dros blwyddyn yn ôl, ond dwi ddim wedi dysgu am hanner y pethau sydd ar gael. Mae o’n cymryd amser. Ond un peth dwi wedi sylwi ydy bod mynd a’r camera gyda fi yn gwneud i fi sylwi ar y byd o gwmpas yn fanwl. Mi faswn yn hoffi tynnu llun da (mewn focws!) o’r cudyll coch - ac o’r las y ddorlan. Ond dydy o ddim yn hawdd, hyd yn oed gyda lens teleffoto. Felly dyma be dwi wedi llwyddo tynnu hyd at hyn:
Er bod yr aderyn ddim yn symud lawer, doedd hi ddim yn agos iawn, ac yr un peth gyda’r cudyll coch, islaw.
Ond hyd yn oed os dwi ddim wedi llwyddo eto, mae o’n hwyl trio - a dwi wedi dysgu llawer wrth wylio’r adar, a’r golau gwych dan ni wedi cael yr adeg yma o’r flwyddyn. Ac i orffen, dyma llun o hellebore yn y fynwent: “Christmas Rose“ yn Saesneg - er ei fod ddim yn blodeuo tan ar ôl Dolig fel arfer. Ond tynnais y llun yma ar ddiwrnod Nadolig.
1 Comments:
O, dwi'n genfigenus o'r cyfle i dynnu lluniau glas y dorlan. Hyfryd.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home