A dyma ni ar ddiwedd mis Mawrth. A fel y dywediad Saesneg – death y mis i fewn fel llew. I di, ddechreuodd y mis gyda penwythnos yng Nghaernarfon yn y Gŷyl, (Gŵyl Ddewi Arall) felly digon o bethau Cymraeg a Chymreig – a gorffennodd (oes dwy 'n' tybed?) gyda ysgol undydd yn Llundain, ddoe. Mae o’n rhyfedd meddwl bod fy Nghymraeg, y dyddiau yma, yn digwydd mewn llefydd mor wahanol: un mewn tref bach wrth ymyl Eryri – felly digon agos i lefydd prydferth a tawel, wrth y môr neu yn y mynyddoedd, a’r llall mewn dinas enfawr swnllyd. (A dipyn bach o siarad yn digwydd yn MK o bryd i'w gilydd).
Eto dwi mor falch bod Llundain digon agos. Mae’r gweithgareddau Cymraeg yn y ganolfan yn ofnadwy o bwysig i fi. Mae’r clwb darllen yn fy ysbrydoli I ddarllen llyfrau na fyddwn yn darllen fel arall. Mi faswn byth wedi darllen O Tyn y Gorchydd, fel engraifft. A mae rhaid bod gymaint o ddarllen yn helpu fi gyda’r gramadeg, er fy mod i’n dal i gamdreidglo, wrth gwrs.
’Roedd yn ardderchog, ddoe, cael canolbwyntio ar y gramadeg gyda Gwen yn diwtor i’r grwp uwch, a ddois yn ol, ar ol diwrnod gwych, gyda llawer o nodiadau. A’r peth sydd rhaid i fi gofio ydy mynd yn ol at y nodiadau a gnweud dipyn o ymarferion. (A dwi wedi gaddo i fy hyn i wneud hynny!)
Ond heddiw, Sul y mamau, ’roedd yn amser teuluol, ac amser i wneud dipyn bach mwy yn yr ardd. Mae’r cyfrifiadur yn gwrthod lawrlwytho lluniau o’r iphone, felly dim lluniau o’r ardd, ond dyma un llun o ehedydd ar y comin.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home