Ailddysgu

Wednesday 6 March 2019

Penwythnos Gwyl Ddewi Sant Arall: gwledd o Gymraeg

Os bosib dwi'n treilio Gwyl Ddewi yng Nghaernarfon yng Ngwyl Ddewi Arall.  Cyfle i siarad Gymraeg, bod yn ol yng Nghymru  a mwynhau digwyddiadau gwahanol:  llenyddiaeth, hanes, celf a.y.y.b.  Fel arfer, roedd yr wyl eleni yn ardderchog.

Ac ar ol i ddigwyddiadau'r wyl gorffen - gyda taith gerdded hanesyddol Rhys Mwyn (sut mae o'n darganfod pethau wahanol iw ddangos i ni bob tro, tybed?) ac ar ol storm 'Freia' (ddim mor ddrwg a'r disgwyl), aethom ar daith bach i Lanberis.  Dwi ddim wedi bod yna am ryw 15 mlynedd.  Doedd y tywydd ddim rhy dda  - ond cerddon i fyny at y rhaeadr, ac i weld castell Ddolbardarn - un o'r castelli Cymraeg.



Mae bod yang Nghaernarfon hefyd yn gyfle i brynu mwy o lyfrau Cymraeg.  Dyma be brynais i dros y penwythnos:

Dwi wedi gorffen darllen Perthyn (Gwych!) a hefyd Dan Bwysau - felly rhaid i fi ddewis be dwi am ddarllen nesaf - falle Ar Drywydd Llofrudd.  Awdur newydd - clywais i o yn son am y llyfr.  Sownio'n ddiddorol.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home