Ailddysgu

Monday 6 May 2019

Darllen a garddio




Gan fy mod wedi brifo fy nhroed – ac yn aros iddo wella digon i fi gerdded fel arfer, dwi wedi bod yn gwneud llawer mwy o ddarllen, yn enwedig llyfrau Robert Harris.  Mi ŵn fy mod i wedi darllen o leiau un o’i lyfrau o’r blaen, ond dwi ddim yn cofio pa un.  Beth bynnag, am awdur!  Hanes, gwleidyddiaeth a chyffro, sgwennu ardderchog – i gyd yma.  A mae o wedi sgwenny gymaint.  Ar y funud, ar ol gorffen ‘Ghost’, dwi’n darllen Archangel – wedi ei sefydlu yn Rwsia, yn nghyfnod Satlin ogystal a’r presenol (well y presenol pan wnaeth o sgwennu’r llyfr).  Dach chi’n gwybod sut mae hi pan mae llyfr yn denu chi gymaint, mi fase’n bosib darllen trwy’r dydd – ond wedyn dach chi’n difaru darllen mor gyflym – wel, profiad fel yna.

Ond yr wythnos yma hefyd, yn y tri ddiwrnod nesa, dwi isio ailddarllen ‘Tyn y Gorchydd’ ar gyfer ein grwp darllen yn Llundain, nos Iau.  O’r diwedd nes i lwyddo i ddarllen y llyfr – a oedd yn heriol mewn llefydd, yn enwedig ar y dechrau, ac yn falch iawn fy mod i wedi ei ddarllen, ond rhaid mynd yn ôl a meddwl amdano dipyn fwy.

Mae o hefyd wedi bod yn amser teuluol, dros Gwyl y Banc – a’r ddau fechan yma am ginio Sul gyda dad. ‘Roedd Teigan isio fi ddarlunio gyda hi, a dyna wnaethon, a darllen stori ar ol stori – ond ‘roedd hi’n amlwg ei bod hi wedi blino yn llwyr (‘roedd Thomas, y brawd bach, wedi ei deffro hi yn gynnar iawn).  A dyma hi, a Teo, ar ol i Teo ddod yn ol ar ol mynd am dro – y ddau wedi blino’n llwyr.

Heddiw ro’n yn gobeithio gweld fy mab ifanca – ond mae o’n sal, felly dydd yn rhydd i trio ddal i fyny.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home