Ailddysgu

Friday 28 June 2019

Porthmadog


Wedi mwynhau wythnos o wyliau ym Mhorthmadog wythnos diwethaf.  Pwy a ŵyr pryd roeddwn yno y tro diwethaf - efall bron 40 mlynedd yn ol........Mae’r dref yn edrych yn eitha dda, a roedd yn hawdd prynu llysiau ffres a pysgod yn y dre, a da gweld bod Cob records yn ddal i fynd!  Cofio mynd yna pan oeddwn yn fy arddegau.


Arhoson mewn fflat yn yr harbwr, gyda golygfa hyfryd.

’Roedd hefyd yn bosib cerdded o gwmpas y llyn bach tŷ hwnt i’r reilffordd.
Gyda tywydd dda, cerddon rhan o’r llwybr sydd yn mynd o Ryd-Ddu i Feddgelert ar hyd Lon Gwyrfai  - gan for fy ngŵr wedi brifo’i benglin, a dim yn medru cerdded yn bell, roeddyn yn chwilio am llwybrau eitha wastad, a roedd y llwybr yma yn ardderchog (mae o’n fwy serth nes ymlaen, ond cerddon ni ond am ryw awr a hanner).

Aethon i lefydd dwi ddim wedi ymweld a am flynyddoedd - fel Criccieth a’r castell,


Harlech, a rhywle r’on wir isio mynd sef yr Ysgwrn.



O’r tŷ, roedd yn bosib cerdded ar hyd lon bach dawel lle mae llawer o gychod yn cael ei cadw a cyrraedd Borth y Gest a’r llwybr arfordirol.


 Taith hyfryd a gwahanol iawn o’r cerdded dan ni’n gnweud adre, ar y comin. Ardderchog cael wythnos yng Nghymru odidog a chyfleoedd i siarad Cymraeg a crwydro o gwmpas.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home