Creaduriaid yr ardd
Yn ddiweddar (fel sawl un arall) dwi ddim wedi bod yn crwydro’n bell, a gan fy mod yn cael trafferth cerdded am hir (cricmala yn y clun) dwi wedi bod yn treulio mwy o amser yn gwylio natur gwyllt yr ardd na natur gwyllt y comin. Mae’r pwll bach yn llawn o benbyliaid rŵan, a rhai ohonon nhw yn brysur yn troi’n lyffantod, a digonedd o lyffantod o gwmpas yr ardd. Dyma un a oedd yn neidio o gwmpas prynhawn ddoe.
A mae’r pwll yn sicr yn diddori fy ŵyr bach sydd yn treulio amser wrth yr ochr yn chwilio am lyffantod.
A dyma llun o un yn bwydo wrth y drws
Dan ni ddim yn siŵr faint o ddraenogod sydd yn dod i’r stryd, ond trwy roi camera allan trwy’r nos cafodd ein cymydog drws nesa cip o lwynog a draenog gyda’i gilydd. Does dim modd rhoi'r llun yn fama yn anffodus. Dwi heb gweld llwynog eto - maent yn dod gyda’r nos - ond bob tro dwi'n deffro yn y nos (rhy amal) dwi'n edrych allan o'r ffenestr, rhag ofn!.
Rhaid darganfod yr enw Cymraeg. Ddoe, wrth eistedd yn yr ardd gyda’r teulu ar ôl cinio Sul, daeth barcud coch drosodd. ’Roedd y camera bach gen i, ond doedd dim modd cael llun da - ’roedd rhy gyflym.
Ond am ffodus bod yr aderyn yma yn eitha gyffredin y dyddiau yma.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home