Ailddysgu

Monday 27 July 2020

'Wal' a draenogod

Be ydy’r cysylltiad rhwng y llun yma o’r ddraenog sy’n byw yn fy ngardd a’r llyfr ’Wal’ gan Mari Emlyn?

 

Dyma’r ddraenog sydd yn byw yn yr ardd (mae hi/o wedi cael yr enw creadigol ’Spike’: enw’r bwyd dan ni’n prynu iddo fo neu iddi hi).  




A mae’n byw yn y bocs yma (ar gyfer draenogod)



 ac yn dod allan gyda’r nos, a fel arfer yn bwyta’r bwyd dan ni’n gadael allan: ond dim bob nos.  Bore ’ma roedd y bwyd yna o hyd a dyna pryd dwi’n poeni a gobeithio ei fod ddim wedi cael damwain (dan ni’n byw yn eitha agos i lon brysur). Dipyn dros wythnos yn ol clywais sŵn pan roeddwn yn bwyta yn yr ardd a dyna’r draenog, wrth ymyl y bocs draenog.  A wedyn symud ar hyd gefn y bordor ac allan o’r ardd o dan y drws.  Y peth pwysig ydy bod y draenog yn gallu mynd o dan y drws: mae ’na ddigon o le.



 A fel mae’n digwydd dyma rhan o’r ysbrydoliaeth tŷ ol i’r llyfr Wal gan Mari Emlyn.  ’Roedd hi wedi sylwi ar gymaint o waliau, yn lythrennol, yn cael eu hadeiladu rhwn tai ac yn rhwystro cymdogion rhag cael sgwrs hamddenol gyda’r pobl drws nesa, a wedi bod yn meddel am waliau, yn lythrenol ac yn drosiadol.  Hefyd ’roedd hi wedi mynd i ddarlith yng Ngŵyl y Gelli am ddraenogod.  Mae’r niferoedd o ddraenogod wedi gostwng yn enfawr.  Maent yn llwyddo yn well y dyddiau yma mewn gerddi (gormod o blaladdwyr yng nghefn gwlad, falle?).  Ond, fel bywyd gwyllt eraill mae’n bwysig iddynt cael coridorau rhwng gerddi i symud o gwmpas, a felly mae waliau yn medru bod yn broblem os nad oes ffordd allan.  A mae waliau’n creu problemau i ni hefyd.  A dyma thema’r llyfr.

 

Mi wnes i adolygiad o’r llyfr ar gyfer Golwg (Tri ar y tro) yn ddiweddar.  Dyma rhan o fy atebion  i’r holiadur: “Methu ei roi i lawr neu bori ynddo’n hamddenol bob hyn a hyn? Unwaith nes i ddygymod âr steil – sydd yn wahanol iawn i’r mwyafrif o nofelau, roeddwn i isio mynd ymlaen i weld be sydd yn digwydd.  Does ‘na ddim stori fawr, ond mae hi’n cydio.

 

Wedi darllen llyfr(au) gan yr awdur o’r blaen? naddo

 

Cymeriadau wedi cydio? Pam? Pam ddim? Do.  Mae’r holl hanes yn cael ei ddweud trwy lygad Sian, sydd adre yn y tywyllwch ar ôl i’r trydan diffodd mewn storm.  Mae hi’n hel atgofion am ei phlentyndod a hefyd mae ei sylwadau yn cyffwrdd thema bwerus gan gynnwys trais, crefydd, anabledd, newid hinsawdd.

 

Sut oeddech chi’n teimlo wedi gorffen darllen y dudalen olaf? Falch fy mod i wedi ei ddarllen ond isio gwybod  a deall mwy am ambell bwnc a gododd. Be yn union digwyddodd i Gareth?  (dwi’n meddwl fy mod i’n gwybod ond mae’r nofel, fel mae Mererid Hopwood yn ei ddweud, yn gynnil).“

 

Llyfr sydd bendant yn werth darllen.  A mae Mari yn cael ei holi am y llyfr yn fama: rhan o'r eisteddfod amgen, lle mae Marged Tudur yn holi Mari.

 

Dwi wedi cael blas ar ddwy nofel arall hefyd yn ddiweddar: Plethu, gan Rhian Cadwaladr, a Merch y Gwyllt, gan Bethan Gwanas.  Y ddwy yn wych.

Be ydy’r cysylltiad rhwng y llun yma o’r ddraenog sy’n byw yn fy ngardd a’r llyfr ’Wal’ gan Mari Emlyn?

 

Dyma’r ddraenog sydd yn byw yn yr ardd (mae hi/o wedi cael yr enw creadigol ’Spike’: enw’r bwyd dan ni’n prynu iddo fo neu iddi hi).  A mae’n byw yn y bocs yma (ar gyfer draenogod) ac yn dod allan gyda’r nos, a fel arfer yn bwyta’r bwyd dan ni’n gadael allan: ond dim bob nos.  Bore ’ma roedd y bwyd yna o hyd a dyna pryd dwi’n poeni a gobeithio ei fod ddim wedi cael damwain (dan ni’n byw yn eitha agos i lon brysur). Dipyn dros wythnos yn ol clywais sŵn pan roeddwn yn bwyta yn yr ardd a dyna’r draenog, wrth ymyl y bocs draenog.  A wedyn symud ar hud gefn y bordor ac allan o’r ardd o dan y drws.  Y peth pwysig ydy bod y draenog yn gallu mynd o dan y drws: mae ’na ddigon o le.

 

A fel mae’n digwydd dyma rhan o’r ysbrydoliaeth tŷ ol i’r llyfr Wal gan Mari Emlyn.  ’Roedd hi wedi sylwi gymaint o waliau, yn lythrennol, yn cael eu adeiladu rhwn tai ac yn rhwystro cymdogion rhag cael sgwrs hamddenol gyda’r pobl drws nesa.  Hefyd ’roedd hi wedi mynd i ddarlith yng Ngŵyl y Gelli am ddraenogod.  Mae’r niferoedd o ddraenogod wedi gostwng yn enfawr.  Maent yn llwyddo yn well y dyddiau yma mewn gerddi (gormod o blaladdwyr yn y cefn gwlad, falle).  Ond, fel bywyd gwyllt eraill mae’n bwysig iddynt cael coridorau rhwng gerddi i symud o gwmpas, a felly mae waliau yn medru bod yn broblem os nad oes ffordd allan.  A mae waliau’n creu problemau i ni hefyd.  A dyma thema’r llyfr.

 

Mi wnes i adolygiad o’r llyfr ar gyfer Golwg (Tri ar y tro) yn ddiweddar.  Dyma rhan o fy atebion  i’r holiadur: 


Methu ei roi i lawr neu bori ynddo’n hamddenol bob hyn a hyn? Unwaith nes i ddygymod âr steil – sydd yn wahanol iawn i’r mwyafrif o nofelau, roeddwn i isio mynd ymlaen i weld be sydd yn digwydd.  Does ‘na ddim stori fawr, ond mae hi’n cydio.

 

Wedi darllen llyfr(au) gan yr awdur o’r blaen? naddo

 

Cymeriadau wedi cydio? Pam? Pam ddim? Do.  Mae’r holl hanes yn cael ei ddweud trwy lygad Sian, sydd adre yn y tywyllwch ar ôl i’r trydan diffodd mewn storm.  Mae hi’n hel atgofion am ei phlentyndod a hefyd mae ei sylwadau yn cyffwrdd thema bwerus gan gynnwys trais, crefydd, anabledd, newid hinsawdd.

 

Sut oeddech chi’n teimlo wedi gorffen darllen y dudalen olaf? Falch fy mod i wedi ei ddarllen ond isio gwybod  a deall mwy am ambell bwnc a gododd. Be yn union digwyddodd i Gareth?  (dwi’n meddwl fy mod i’n gwybod ond mae’r nofel, fel mae Mererid Hopwood yn ei ddweud, yn gynnil).“

 

Llyfr sydd bendant yn werth darllen.

 

Dwi wedi cael blas ar ddwy nofel arall hefyd yn ddiweddar: Plethu, gan Rhian Cadwaladr, a Merch y Gwyllt, gan Bethan Gwanas.  Y ddwy yn wych.


Gyda llaw, mae 'Blogger' wedi newid a dwi ddim wedi dod i afer efo fo eto, felly siawns bod y blog ddim yn dangos cweit fel dwi isio.  

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home