Creu coed newydd
Wythnos diwetha, wnes i blannu mes gyda’r ŵyrion. Maen nhw yn gwneud prosiect gyda’r ysgol lle maent yn casglu mes o un o’r hen goedwigoedd yn y ddinas er mwyn tyfu coed derw. Bydd y coed bach yn mynd yn ol i’r un hen goedwig. Y prif rheswm am hyn ydy bod y coed ynn yn cael eu difetha gan haint a felly bydd y coed bach derw yn tyfu yn ei lle, oherwydd bod y coed yn gymysgiad o ynn a derw.
Yn anffodus wnes i ddim gwylio’r fideo cyn plannu’r mes! Dydyn nhw ddim yn dod o un o’r coedwigoedd hynafol, doedden nhw ddim yn wyrdd a doedd y potiau dim digon mawr! Beth bynnag wnaeth y plant mwynhau’r profiad.
Byddaf yn mynd i goedwig “Linford’, un o’r coedwigoedd hynafol i gasglu mwy o fes, a phlannu nhw yn yn ffordd cywir! Mae'r dderw mor bwysig i fywyd gwyllt, mae gymaint o rywogaethau yn byw ar neu o gwmpas coed derw.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home