Cynhaeaf
O’r diwedd mae’r tywydd crasboeth wedi darfod a dan ni wedi cael glaw, sydd yn hynod o dda i’r ardd. Ond, gyda’r glaw, dan ni wedi cael stormydd – a dwi’n casau stormydd. Ond rhaid dweud dydan ni ddim wedi cael gymaint a oedd wedi cael eu ddarogan. Serch hynny mi fyddaf yn falch iawn pan mae’r tywydd wedi setlo.
A mae’r cynhaeaf wedi dechrau o ddifri. Mae’r ciwcymbers wedi bod yn tyfu fel dw’n i’m be am dipyn, ond rŵan mae ‘na ddigon o ffa hefyd (a dwi wedi defnyddio rhai ohonyn nhw mewn Fasolakia - a rhoi nhw yn y rhewgel). Blasus!
Ar wahan i’r ffa ffrengyg a’r ciwcymbyr, mae digon o courgettes, tomatos, moron ac ychydig o datws.
O a chard a spinaets (ychydig iawn; ar ol i’r adar y tô ei fwyta) a letys. Mae ffrwythau ar gael hefyd; afalau (Discovery); eirin Fictoria (sydd ddim wedi gnweud mor dda eleni yn y lleithder a’r gwres, a bydd y gellyg yn barod cyn bo hir. Felly mae na ddigon i fwynhau a bwyta yn yr ardd llysiau. A roedd yr aubergine yma (yn y fasged) digon fawr i wneud sawl cyri!
Tyfais hon o hadau ac unwaith mae hi wedi ei seflydu mae’r blodau yn para trwy’r haf hwyr i fewn i’r Hydref.
Mae’r glaw yn gwneud lles mawr i’r ardd a cyn bo hir byddaf yn dechrau paratoi am y gaeaf ac am blwyddyn nesaf. Ond post arall ydy honna.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home