Yn yr add ym mis Awst...
Poeth a sych
Dwi ddim yn dda efo tywydd poeth a hyd yn oed yn waeth os oes rhagolygion o stormydd ar y gweill oherwydd fy ffobia. Mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn gyfnod o dywydd eithafol. Ar y funud mae o’n eithriadol o boeth yma bob dydd a wedi bod yn sych ofnadwy, ac oes, mae ’na rhagolygion am/o? stormydd. Ond mae o’n bosib bydd y stormydd yn ein pasio ni, neu dim yn parhau rhy hir, ond nid felly mae’r rhagolygion yn dangos. Mae’r gardd wir angen dŵr. Ar y funud mae rhaid dyfrio bob nos, a weithiau, os oes bosib, yn y bore hefyd. Wrth gnweud hynny, mae’r llysiau yn ffynu.
Ond dydy’r ffrwythau ddim yn gnweud mor dda eleni yn yr ardd. Mae’r eirin yn pydru ar y coeden: efallai ei fod rhy boeth a rhy llaith? Dwi wedi cael rywfaint o eirin ond dwi ddim yn or obeithiol. Gawn weld - mi fase’n drueni peidio cael rywfaint. Fictorias ydyn nhw - a blasus iawn!
Dwi wedi bod yn pori drwy’r eisteddfod a wedi mwynhau ambell sgwrs o’r babell len (e.e. rhwng Manon Steffan Ros a Bethan Gwanas) a wedi mwynhau llyfr diweddara Bethan Gwans hefyd: Merch y Gwyllt. Wnes i fwynhau digon i fi fynd yn ôl at y llyfr gyntaf: Gwrach y Gwyllt. Mae’r ddwy nofel, dwi’n credu, mor dda. Mae Bethan Gwanas yn sgwennu mor dda, mae’r ddau lyfr yma yn ddarllenadwy, gyda narratif gryf a chymeriadau credadwy a gry, eto, dydynt ddim yn arwynebol. Mae rhywbeth mewn stori gwrachod yn Ewrop (a’r ffordd hynllefus roedd rhywun a oedd yn cael ei gyhoeddi o fod yn wrach, yn cael ei drin, yn dweud rhywbeth am yr agwedd tuag at ferched, a tuag at pethau nad oedd pobl yn deallt. A rhywbeth am rhan yr eglwys a oedd yn ofni gweld pŵer merched. Dwi’n ailddarllen llyfrau dwi’n hoffi reit aml. Wn i ddim os ydy pobl eraill yn gwneud yr un peth?
Ac yn ôl i’r ardd cyn gorffen. Dwi wedi treulio oriau yn yr ardd, yn dyfrio, yn chwynnu ac yn casglu ffa, a courgettes, tomatos a chiwcymber - ond eto dydy’r ardd ddim yn edrych mor dda ar y funud. Mi wnaf lwytho lluniau toc, ond wedi rhedeg allan o egni ar y fund!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home