Ailddysgu

Saturday, 31 October 2020

Darllen


Does dim gwell, yn aml, na swatio i lawr gyda llyfr da, yr amser yma o’r flwyddyn.  Rhywsut, nes i ddim darllen gymaint ar ddechrau (neu yn ystod y cyfnod clo). Gyda’r tywydd mor braf, a’r gardd a’r cefn gwlad yn galw, do’n iddim yn chwilio am bethau arall i’w wneud yn ystod y dydd, pan doeddwn i ddim yn gweithio neu gwneud pethau anghenrheidiol.

 

Yn ddiweddar dwi wedi darllen mwy, gyda’r Hydref wedi dod, a tywydd drwg yn ogystal a dyddiau byr.  Yn ddiweddar darllenais  Ar Lwybr Dial gan Alun Davies ac Adar o’r Unlliw gan Catrin Lliar Jones.  Dau lyfr mor wahanol.  Fel mae pawb sy’n fy nabod i yn gwybod, dwi wrth fy modd gyda llyfr ditectif da, Saesneg neu Cymraeg.  Ar ol clywed Alun Davies yn siarad am ei lyfr gyntaf, Ar Drywydd Lofrydd, prynais a mwynhais y llyfr.  Edrychais ymlaen i’r ail gael ei gyhoeddi.  O be dwi’n cofio roedd dipyn yn hwyrach na’r disgwyl ond roedd hwn, fel y gyntaf, yn llyfr annodd i roi lawr.  Gobeithio bydd Alun Davies yn parhau i sgwennu am y ditectif ‘Taliesin’, sydd, fel sawl ditectif yn ddipyn ‘wahanol’.

 

Llyfr gynta Catrin Lliar Jones ydy Adar o’r Unlliw, a mor wahanol i lyfr Alun Davies.  D’on i ddim yn siwr am hwn ar y dechrau, ond mi wnaeth o afael ynddo fi- a bydd yn ddiddorol gweld be fydd yn dod nesa. Ar gyfer y clwb darllen Llundain, dan ni’n darllen Y Gwreiddyn (Caryl Lewis): casgliad o straeon byrion.  Hyd at hyn dwi ddim wedi cael llawer o hwyl arnynt, ond falle oherwydd fy mod ddim yn hoff iawn o’r stori gyntaf, Y Gwreiddyn.  Felly gawn weld.

 

A dyma’r rhai o’r llyfrau sydd ar y silff i ddarllen: llyfrau dwi ddim wedi llwyddo i ddarllen am ond am trio roi cynnig arall:

 

Glasynys gan Ann Pierce Jones;

Porth y Byddar gan Manon Eames

 a Gwyllgi gan Alun Cob.  Dwi wedi darllen a mwynhau llyfrau Alun Cob yn y gorffenol, ond roedd dechreuad y llyfr yma braidd yn dreisgar a gwaedlyd….a felly rhois gorau i’w ddarllen, am y tro, beth bynnag, 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home