Ailddysgu

Thursday 5 November 2020

Treigl y tymor

 



Dyma’r aubergines olaf.  Dechrau mynd felly oedd rhaid eu goginio, a roedden nhw yn flasus iawn.

 Mae treigl y tymor wedi bod yn wahanol eleni, dwi’n credu.  Yn enwedig gyda’r ail cyfnod clo wedi dechrau. Fel arfer, mae cyfleoedd i fynd i ffwrdd; cael cinio gyda ffrindiau; i’r clwb darllen Llundain cyfarfod yn y bar; i’r cylch siarad Cymraeg Milton Keynes cyfarfod yn y tafarn ac i’r holl deulu ddod i gael cinio dydd Sul...  Roeddwn wedi trefnu mynd i aros gyda ffrind sydd yn byw yn Llandeilo.  Dwi ddim wedi ei gweld hi ers y llynedd.  Roeddwn yn gobeithio mynd yna ym mis Ebrill eleni, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn bosib ac felly penderfynnon fy mod am fynd ar ddiwedd fis Hydref.

Ond mae’n anodd rhagweld yr effaith.  Dwi’n ffodus iawn: dwi ddim yn byw ar ben fy hun; dwi’n gweithio hanner amser ac yn medru gweithio o gartref ac mae gen i ardd fawr lle dwi’n hapus iawn yn treulio amser - a chomin yn eitha agos, lle dwi’n medru cerdded a gweld bywyd gwyllt.  Ac o ran Covid, dydy pethau ddim yn ddrwg yn lleol ar y funud. Ond yn sicr bydd y gaeaf yn anoddach i bawb- ac yn anodd iawn i rai.

 

Dyma rhan o fy rhestr pbersonol i drio cadw’n siriol trwy’r cyfnod hwn (neu rhan ohono fo!):

 

·      Darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg.  Am ryw reswm doeddwn ddim wedi dechrau ar lyfr Cymraeg ers i mi orffen Myfi Iolo ryw chwech wythnos yn ol.  Mae hyn yn anarferol.  Felly dechreuais ar lwyth bach o lyfrau yn aros amdanaf yn cynnwys ’Ar Lwybr Dial’ gan Alun Davies.  Dwi’n hoff iawn o lyfrau ditectif ac wedi mwynhau y gyntaf yn y gyfres a ‘roedd hwn yn dda hefyd.  Archebais a darllenais llyfr arall o Balas Print yng Nghaernarfon a byddaf yn meddwl am ba lyfrau Cymraeg dwi isio darllen dros ’Dolig.  (Mwy am hynny yn y man).  Dan ni’n darllen Gwreiddyn ar gyfer y clwb darllen Llundain, felly dwi wedi dechrau hwnnw - ond rhaid dweud, dwi ddim yn ei hoffi llawer.  Mae Caryl Lewis yn hynod o ddawnus, ac yn sgwennu mor dda, ond dydy ei storîau hi ddim yn siriol o bell ffordd.

 

·   Dal i fyny gyda rhai o’r digwyddiadau rhithiol sydd ar gael o hyd.  Mae tipyn i’w gael o hyd ar wefan Gwyl Arall 2020 fel ’Sgwrs trysorau coll Caradog Pritchard’.  Dwi wedi dechrau gwrado ar y sgwrs ond dim wedi gorffen.

 

·      Fel ffotographydd brwd, mae gymaint o luniau ar y gliniadur sydd angen sortio a dileu - dyddiau o waith yn fana!

 

·      Gwaith yn yr ardd, fel plannu ffa llydan.  Gwell o lawer gwneud hyn yn yr Hydref.  Mae’r planhigion yn gryfach ac yn gwrthsefyll y pryfaid duon afiach yn well.

 

Gwylio rhaglenni Cymraeg a Saesneg – yn aml ar yr iPlayer.  Ar y funud, un o fy ffefrynau Cymraeg ydy ‘Am Dro’- ond mi fyddaf yn gwylio rhaglenni mwy ddifrifol hefyd, wiethiau, fel Pawb a’i Farn a hefyd gwrando ar y radio.  Ac un ffefryn fawr (teledu, dim radio) ar y funud ydy ‘Inspector Montalbano’. Cyfle i drio gofio fy Eidaleg, a gweld tirlyn anhygoel Sicily – a chael hwyl!

2 Comments:

At 11 November 2020 at 12:20 , Blogger Wilias said...

Difyr iawn Ann. Aubergines wedi methu'n llwyr yn fan hyn. Rhaid i mi dderbyn fod y tymor yn rhy fyr yn Stiniog!

 
At 20 November 2020 at 08:46 , Blogger Ann Jones said...

Maent yn y ty gwydr. Ond doedd y tymor ddim mor dda eleni. Mwynhais darllen am yr ymweliad i'r wladfa

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home