Porthmadog
Wedi mwynhau wythnos o wyliau ym Mhorthmadog wythnos diwethaf. Pwy a ŵyr pryd roeddwn yno y tro diwethaf - efall bron 40 mlynedd yn ol........Mae’r dref yn edrych yn eitha dda, a roedd yn hawdd prynu llysiau ffres a pysgod yn y dre, a da gweld bod Cob records yn ddal i fynd! Cofio mynd yna pan oeddwn yn fy arddegau.
Arhoson mewn fflat yn yr harbwr, gyda golygfa hyfryd.
’Roedd hefyd yn bosib cerdded o gwmpas y llyn bach tŷ hwnt i’r reilffordd.
Gyda tywydd dda, cerddon rhan o’r llwybr sydd yn mynd o Ryd-Ddu i Feddgelert ar hyd Lon Gwyrfai - gan for fy ngŵr wedi brifo’i benglin, a dim yn medru cerdded yn bell, roeddyn yn chwilio am llwybrau eitha wastad, a roedd y llwybr yma yn ardderchog (mae o’n fwy serth nes ymlaen, ond cerddon ni ond am ryw awr a hanner).
Aethon i lefydd dwi ddim wedi ymweld a am flynyddoedd - fel Criccieth a’r castell,
Harlech, a rhywle r’on wir isio mynd sef yr Ysgwrn.
O’r tŷ, roedd yn bosib cerdded ar hyd lon bach dawel lle mae llawer o gychod yn cael ei cadw a cyrraedd Borth y Gest a’r llwybr arfordirol.
Taith hyfryd a gwahanol iawn o’r cerdded dan ni’n gnweud adre, ar y comin. Ardderchog cael wythnos yng Nghymru odidog a chyfleoedd i siarad Cymraeg a crwydro o gwmpas.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home