Ailddysgu

Sunday 31 July 2022

Ynys Sgogwm: brain goes-goch

Ynys Sgogwm rhan 2: y fran goes-goch

Dyma fran hardd gyda phig a choesau goch fel yn yr enw sydd yn byw, fel arter yn y wlad yma, wrth y mor.  Ond mae na lai na 400 par ym mhrydain.  A dydy o ddim mor hawdd tynnu lluniau ohono fo.  Mae un pâr (efllai mwy) yn nythu ar yr ynys ond gwelir mwy na’r teulu yna.  Maent yn nythu ym mis Ebrill felly erbyn mis Gorffenaf mae’r cywio yn hedfan - ac yn ffurfio heidiau bach eu hunan (yn ol yr RSPB).  Mae nhw’n perthyn i’r bran ond yn debyg o faint (dipyn mwy) i’r jac-y-do, ond yn yr awyr mae nhw’n hollol wahannol, gyda’r pig goch a’r coesau coch a’r adenydd yn ffurfio bysedd.  A mae o petai eu bod nhwy’n chwarae pan yn hedfan - yn flio’n gyflym iawn gyda’r bysedd clir a’r pig  goch yn dangos yn glir hefyd.






Mae rhaid iddyn nhw cael glaswellt byr, felly tir sy’n cael ei pori sydd yn dda.  Ym Mhen Llŷn mae’r defaid yn gnweud y gwaith.  Ar Sgogwm, mae llawer o’r ynys wedi ei orchuddio gyda rhedyn y dyddiau yma - a mae hynny’n dda i’r gwylanod oherwydd bod y nythod yn cael eu cuddio, ond yn dda i ddim i’r fran goes-goch.  Ond yn ffodus, mae’;r cwningod yn gwneud y gwaith pori.  Efalle bod mwy o frain goes-goch yn y gorffenol pan roedd defaid a geifr ar yr ynys?




Beth bynnag, mae’n fraint cael eu gweld nhw - a’u clywed nhw.  Mae nhw’n swnllyd - felly dydy o ddim yn anodd i dod ar eu draws nhw, ond gan eu bod yn ddu (wel, yn las dywyll dywyll dwi’n meddwl) ac yn symyd mor gyflym yn sicr mae o’n  anodd i gael lun da.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home