Ailddysgu

Tuesday, 11 March 2025

Bywyd gwyllt mis Chwefror a dechrau mis Mawrth

 Wel mae’r tywydd wedi troi, a Gaeaf i’w weld yn ôl ar ôl wythnos o haul mwyn ar ddechrau mis Mawrth.  Fel sgwennais i yn y blog diwethaf llwyddais i i fynd i Gaernarfon am sbel fach fach, ond serch hynny gwerth chweil. 

Ac mae natur wedi bod yn garedig hefyd dros y cyfnod diweddaraf.  Daeth aderyn prin i’r comin ym mis Chwefror, “Richard’s pipit”.  Mae hwn yn byw yn bell i ffwrdd ac yn nythu mewn gwledydd fel Siberia, Mongolia a rhan o Tsieina gan fudo i’r De dros y Gaeaf fel arfer, ond mae nifer bach, dwi wedi dysgu, yn gaeafu yn y wlad yma.

 

Gyda’r cynnwrf o’r aderyn prin yma ar y comin, daeth haid o adarwyr hefyd, a diddorol oedd cael sgwrs gydag ambell un.  Dysgais fod giachod yn y rhan wlyb o’r comin (dim yn bell o’r maes parcio) ac yn wir, gwelais un yn hedfan.  Aderyn brown ydy hwn, ond mae o wir yn brydferth. A hefyd mae “jack-snipe” yna (sydd yn fwy prin), ond dwi ddim wedi gweld hwn.  Wrth ddilyn yr adarwyr cefais gip ar y “Richard’s pipit”.  Gwahanol iawn i’r  corhedydd y waun dan ni’n gweld ar y comin ac yn llawer mwy o ran maint.

 

Dysgais hefyd bod y dylluan wen yn ôl ar y comin.  Ar y dydd Sul ar ôl gweld y gorhedydd prin, es i i’r comin i fynd a’r ci am dro yn y prynhawn ac roedd yr haul yn gynnes.  Syndod felly oedd gweld tylluan wen yn hedfan am ryw hanner awr wedi pedwar.  Trïais dynnu lluniau gyda’r camera bach, ond yn anffodus roeddwn wedi troi fideos bach ymlaen heb i fi sylwi!  Es i yna gyda fy ngŵr y diwrnod canlynol, ond wrth gwrs, dim tylluan!  Fel yna mae hi gyda bywyd gwyllt!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home