Bywyd gwyllt yr ardd (rhan 1)
Dwi ddim wedi sôn eto am y draenog bach a ymddangosodd yn ein gardd dros bythefnos yn ôl. Ar ddiwrnod hyfryd penderfynais dorri’r gwair am y tro cyntaf eleni ac wrth i fy ngŵr fynd i nol y peiriant torri gwair dyna ble'r oedd y creadur yn y gornel, a dim yn edrych yn rhy dda. Mae’n rhaid ei fod wedi deffro o aeafgysgu ac yn ddryslyd. Yn ôl y milfeddyg maen nhw yn aml eisiau dŵr a bwyd ar ôl deffro ac felly rhoddais y draenog i mewn i blwch 'sgidiau gwag gyda bowlen fach o ddŵr a thipyn o fwyd draenog a rhoi’r blwch yn y tŷ bach tu allan. Ar ôl rhyw awr 'roedd y draenog wedi bwyta’r bwyd ac yfed y dŵr ac yn edrych yn llawer gwell. A dyma fo, yn nwylo fy ngŵr cyn iddo fo gael ei adael i lawr ar y lawnt. Aeth y draenog yn syth i’r blwch draenog sydd yn yr ardd. Ond yn hwyrach, gyda’r nos, roedd o allan eto, yn cael mwy o fwyd a dŵr.
Ond rhaid dweud ’hi’ erbyn hyn. Dri diwrnod yn ôl, roedd dau ddraenog i’w gweld, ein draenog ’ni’, sydd ddim yn rhy fawr, ac un arall llawer mwy. Mae’r ddau wedi bod gyda'i gilydd ac yn cylchu o gwmpas ei gilydd fel mae draenogod yn gwneud pan maen nhw’n paru. Maen nhw’n bwyta digon hefyd! Efallai, wrth eu bod yn brysur yn gwneud rhywbeth pwysig, mae o’n help mawr bod bwyd yn cael ei roi i lawr.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home