Y draenogod neu bywyd gwyllt yn yr ardd rhan 2.
Am flynyddoedd, dwi wedi bod yn garddio ar gyfer bywyd gwyllt. Hynny yw, garddio yn organig, a thrio creu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Dwi’n tyfu planhigion sydd yn cynnig bwyd, gwneud yn siŵr bod dŵr ar gael, tyfu blodau sydd yn dda i wenyn, cael lloches i adar a gadael ambell le sydd ddim rhy dwt fel bod creaduriaid yn cael lle i guddio. Hefyd, wrth gwrs, dwi isio i’r ardd edrych yn dda, a dwi isio tyfu bwyd ynddi hi.
Mae draenogod wedi prinhau yn ofnadwy dros y blynyddoedd. (Mae’r wefan yma
yn llawn o wybodaeth) . Yn ein hardal ni, mae ‘na ddraenogod o gwmpas a dan ni wedi bod yn gwneud be fedrwn ni i helpu’r creaduriaid bach annwyl yma. Prynon ni “tŷ” i’r draenogod, (fel gwelwch yn y llun) a dros y blynyddoedd mae draenogod wedi dod i’r ardd. Dan ni yn prynu bwyd draenogod (“Spike”!) a hefyd yn rhoi dŵr allan. Ryw bedair flwyddyn yn ôl, gyda’r ŵyrion, gwnaethon ni loches i greaduriaid bach o dan goeden wrth y wal. Peth arall pwysig ydy bod draenogod yn medru mynd o un ardd i’r llall felly mae’n bwysig bod yna briffordd draenog. Fel mae’n digwydd mae 'na dwll sydd digon mawr i ddraenogod mynd trwyddi hi, ar waelod y drws yn y wal.
Eleni maen nhw wir yn ffynnu. Ryw fis yn ôl wnaethon ni dod ar draws draenog wrth fynd ati i dorri’r gwair. Yn y blog yma, soniais fel ein bod wedi gweld dau ddraenog. Ar ôl ychydig gwelson ni tri draenog. Ond erbyn dydd Llun diwethaf, roedd CHWECH. Dwi erioed wedi gweld gymaint o ddraenogod! Roedd tri yn bwyta’r bwyd y roedden ni wedi rhoi iddyn nhw a tri arall yn cerdded o gwmpas yr ardd llysiau (gyda'i gilydd). Ers hynny dan ni ddim wedi gweld gymaint ond dan ni wedi prynu pecyn mawr o’r bwyd!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home