Ailddysgu

Friday 19 July 2019

Ffobia


Dwi ddim yn siŵr am sgwennu’r post yma - mae o rywbeth fel mynd i ’AA’: cyffes.  Ond dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod yn siarad am problemau iechyd meddel - a dwi'n meddwl bod ffobias, fel iselder, (ond wnaf ddim siarad am iselder heddiw) ar y sbectrwm  Felly, mae gen i ffobia eitha gry - o stormydd - wel o’r fath stormydd sydd yn dod a mellt a tharannau.  Dwi ddim yn siŵr yn union pryd ddechreuodd o, ond gyda pwysau dros y flynyddoedd, yn enwedig yn sgîl magu phlant gyda problemau iechyd meddwl, mae o wedi gwaethygu.

Mae o yn cael effaith ar fy mywyd i, fel, am wn i, mae pob ffobia.  Ond, gyda ffobia cymdeithasol neu rhywbeth tebyg, mi rwyt ti yn gwbod dy fod am wynebu sefyllfa anodd.  Mae’r tywydd yn fwy ansicr. Dwi ddim yn siŵr weithiau os ydy’r ’aps’ ar y ffôn yn helpu neu beidio.  Wel, wrth gwrs bod nhw’n helpu.  Fel rhywun sydd allan yn y cefn gwlad ac yn yr ardd tŷ allan yn gyffredinol dwi ddim isio cael fy nal mewn storm.  Ond mae fy mol yn troi ond wrth gweld yr arwydd back na sy’n golygu mellt.  A mae edrych neu dim edrych ar yr ap yn medru dod yn obsesiwn.

A mae’r corddi ac y nerfusrwydd sydd yn dod cyn y storm - ’anticipatory anxiety’:  yn anodd hefyd - mae’r ymenydd yn mynnu dod yn ol i’r peth, meddwl y gwaethaf a.y.y.b.  Am flynyddoedd nes i ddim am y peth ond osgoi stormydd pan oedd yn bosib.  Yn y gorffenol dwi wedi cael fy nal unwaith neu dwywaith mewn storm.  Unwaith tra yn beicio ym mynyddoedd gogleddol Spaen.  Ar ben y mynydd, gweld mellt yn y pellter, ac fy ngŵr yn trio fy nghysuro a dweud “ddaw o ddim i fama, mae o dros y dyffryn milltiroedd i ffwrdd”.  Ha!  Ar ol ryw bum munud roedd y storm uwch ben, a mellt a tharanau o’n gwmpas.  Dwi erioed wedi beicio mor gyflym a wnes i y ddiwrnod hwnnw - i lawr y lon droellog o’r mynydd.  Ac yn trio dweud wrth fy hyn; “Cym bwyll - dim rhy gyflym, ti ddim isio osgoi’r storm a syrthio i lawr o’r mynydd!” Pryd arall ar yr un gwyliau, storm yn y nos, a ninau mewn pabell.  Erchyll.  Ond yn amlwg nes i oroesi.  Yr un gwaethaf oedd yn America.  Daeth y storm mor gyflym: cymylau du bygythiol a gwynt, a doedd dim digon o amser i gyrraedd car fy ffrind gyda hi.  Felly swatio, crio, ar fy nghwrcwd yn  erbyn adeilad, a gweld adlewyrchiad y mellt yn y ffenestr o’r adeilad uchel.  Diolchi mae ffrind agos oedd efo fi, oherwydd y temilad o embaras a chywilydd o fod mewn stâd.

Dydy’r peth ddim yn resymol wrth gwrs.  Hyd yn oed yn y tŷ, dwi’n mynd dan y grisiau, mynd a stôl yna a cae’r drws fel dwi ddim yn gweld y mellt ac os bosib dim yn clywed y taranau.

Ychydig o flynyddoedd yn ol, chwiliais am therapi.  Dydi o ddim yn rhywbeth sydd yn hawdd i’w drin.  Dan ni wedi trio ‘hypnotherapi’ ond mae’r gwreiddiau yn ddwfn.  Dwi ar drothwy drinniaeth arall – a oedd am ddechrau o ddifri heddiw.  Ond dyfalwch be?  Oedd gan i sesiwn heno – a mae’r ap yn dweud bod ni am gael cawodydd taranau. Dydw i ddim digon dewr i fynd felly. Ac eto mi wn bod o’n holl bosib na fydd storm.  Da ni’n weddol ffodus yn y fan hyn.  Yn aml mae’r stormydd yn osgoi yr ardal yma ac yn mynd heibio.

Felly dwi’n gobeithio na ddaw’r storm.  A dwi’n gobeithio bod sgwennu am y peth yn gnweud lles hefyd.  Dwi erioed wedi gwneud hyn o’r blaen.

A be sydd yn helpu?

·     Pethau fel “mindfulness” “ymwybyddiaeth ofalgar”.  Mae ymarferion felly yn arafu’r anadl ac yn help i fi deimlo’n llai ofnus 
·     Mae arferion fel myfyrdod yn medru helpu hefyd
·     Cydnabod bydd y storm yn mynd heibio
·     Gwrthdyniad.  E.e. darllen nofel gafaelger – fel ditectif neu llyfr gyffrous
·     Meddwl am bethau sydd yn rhoi cysur


Mae o’n help gwneud ymarferion fel myfyrdod ac ymwybodaeth ofalgar (am llond ceg!) ar adegau arall hefyd, fel bod yr ymenydd a’r corff wedi ymarfer ac yn gwybod be i wneud. O ac efalla hiwmor du?

Dwi’n gobeithio sgwennu am rywbeth hapusach tro nesaf - fel cymryd lluniau bywyd gwyllt, yr ardd, llyfrau ac efalla Gŵyl Arall - lle fues i’r penwythnos diwethaf.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home