Ailddysgu

Saturday 27 July 2019

Y dylluan fach

Mae gennyn ni dylluanod fach ar y comin a dwi wedi trio cymryd lluniau ohonyn nhw yn y gorffenol.  Maent yn ddigon swil ar adegau, ond, yn wahanol i’r ran fwyaf o dylluanod, maent yn ymddangos yn ystod y dydd (i raddau).  Eleni mae Jo, ffotograffydd byd natur lleol - a ffotograffydd gwych, mae rhaid dweud, wedi llwyddo i dynnu lluniau gwych o’r tylluanod bach yn y nyth.  Llwyddiais i ddim i ddarganfod lle roeddent yn nythu - ac erbyn cael syniad go dda, roedd y rhai bychan wedi gadael y nyth.

Mae ganddyn nhw llecyn delfrydol ar y comin.  Mae gwrych yn rhedeg i lawr un ochr o’r comin gyda llawer o goed helyg ynddo.  Ty hwnt i’r gwrych mae padogau lle mae ceffylau yn pori.  Felly, tybwn i, mae digonedd o bry genwair ar gael.  A dyna be mae’r tylluanod yma yn bwyta (yn ogystal a phethae eraill os ydynt yn medru ei ddal).  Ty ol i’r gwrych mae ffens - a hefyd ffens arall yn rhedeg i lawr ochr y padogau (ydy hwn yn air sydd yn cael ei ddefnyddio tybed? Cae, swn i wed i dweud...ond yn Saesneg ’paddocks’ yn sicr) i'r afon.  A ty ol i’r ffens gyntaf, mwy o goed helyg.

Felly be sydd yn digwydd yn aml ydy bod un o’r adar yn gwylio be sy’n digwydd o’r ffens, (ac yn medru hela hefyd o’r ffens) ond os oes unryw cynnwrf mae hi’n medru hedfan i’r helygen mwyaf agos.  A dyna lle arall mae’r adar yn cilio - yn y coed helyg.  Yn aml mae twll yn y goeden sydd yn eitha addas i dylluan fach.  Dyma un twll mewn helygen lle dwi wedi gweld tyllian, 



a dyma llun o'r gynefin - gyda tylluan fach, ond dim yn agos iawn...


Mae o’n fraint medru eu gwylio nhw.  Dydy o ddim yn hawdd mynd rhy agos - a beth bynnag faswn i ddim isio tarfu arnyn nhw, ond dros yr haf dwi wedi mwynhau chwilio amdanynt bron bob bore pan dwi allan ar y comin, ac os bosib tynnu lluniau.

Mwy o luniau: ar gainc



ac ar y ffens

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home