Mae o mor boeth yma. Roedden yn meddwl bod yr haf drosodd a dyma’r tywydd poeth yn dod yn ol. Beth bynnag - does dim modd mynd allan yn ystod y dydd (yn fy marn i) - felly allan ar y comin yn gynnar gyda Teo, ac yn ol yn erbyn ryw 9.15 mewn pryd i gael frecwast sydyn a gweithio yn yr ardd tuag at o gwmpas 11. Ac aros i fewn wedyn tan o leia 6! Ar ol heddiw bydd y gwres dipyn bach yn llai, diolch byth.
Ond mae’r llysiau yn gwneud yn iawn, er gwaethaf y tywydd, gyda digon o ddyfrio. Dwi’n trio peidio dyfrio gormod, felly dim ar y lawnt o gwbl a dim ar y blodau ar wahan i’r rhai sydd newydd fynd i fewn.
A dyma beth sydd yn digwydd.
Rhoais y scwash i mewn un o’r biniau compost a mae o’n hapus iawn (ond nid ar y funud yn yr haul poeth - a fel gwelir mae’r dail yn edrych yn anhapus ond ddaw o’n ôl unwaith iddi oeri dipyn bach. A mae’r planhigyn wedi dringo i fewn i’r coeden gellygen - dipyn o arbrawf a gobeithio bydd dim niwed i’r gellyg.
Bydd y gellyg yn barod diwedd mis Medi, dwi’n meddwl.
Yn y cyfamser mae digon o afalau o hyd. Afalau ’Discovery’ ydy’r rhain, a mae gymaint ohonyn nhw - dan ni’n bwyta llwyth, mae’r wyrion yn hoff ohonyn nhw a mae rhai yn mynd i’r cymydogion hefyd. Dydyn nhw ddim yn cadw. Ond mae ’na hefyd digon o berllanau cymdeithasol yn yr ardal - yn cael ei sefydlu a chynnal gan y ’Parks Trust’ https://www.theparkstrust.com - a mi es i un newydd wythnos diwethaf - ryw 3 filltir i ffwrdd.
Yn y tŷ gwydr mae pethau un dod ymlaen yn eitha dda, yn cynnwys tomatos a basil. Gobeithiaf cael digon o efni, unwaith dydy hi ddim mor boet, i wneud pesto fel dwi'n gwneud bob blwyddyn.
Ac yn sicr mae'r tywydd poeth yn helpu gwneud compost da. Anodd i goelio bydd y cymysgiad yma yn troi i fewn i gompost gwych mewn ruw ddwy fis.
Ac yn ffodus wnes i hau hadau letys cyn iddi fynd mor poeth - a bydd yr rhain yn baron yn yr Hydref.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home