Ailddysgu

Sunday 11 August 2019

Y cynhaeaf


Mae o’n amser eithaf brysur yn yr ardd - dwi wedi gorfod dal ymlaen gyda’r dyfrio, a does na ddim llawer o law wedi bod o gwbl.  

Ond serch hynny, gyda dyfrio ofalus ( a byth lle does dim angen) mae’r rhan fwyaf o’r llysiau a’r ffrwythau yn gwneud yn dda.  Mae na dair fath o eirin (dwi’n meddwl!): czar; jubilee a victoria - o ia, ac un hwyr, majorie’s seedling - ond does llawer ddim o ffrwythat ar honna eleni.  Roedd o mor boeth pan oedd y czar yn aeddfedu, a felly roedd yr eirin yn mynd drosodd yn hawdd ac yn cael eu meddianu gan y cacwn.  Serch hynny, llwyddiais i gasglu dipyn, bwyta rhai, rhoi rhai i’r wyrion ac i gymdogion - a rhai i’r rhewgell.  Wedyn y ’jubilee’.  Ddim cweit mor flasus, ag o maint llai, ond yr un peth.  Mae’r basged yn y llun yn dangos rhai o’r ’jubilee’ a hefyd rhai Fictoria gynnar.



Ond yr afalau sydd yn cymryd gwaith.  mae gennyn ni goeden Discovery sydd yn aeddfedu yn gynnar iawn.  Mae’r afalau digon melys, unwaith maent wedi cael digon o haul, ond mae llawer yn disgyn ac wedyn os oes yna clais neu torriad maent yn dirywio ac yn pydru yn gyflym - a mae’r cacwn yna hefyd.  Gyda’r rhain eto, mae rhai o’r cymdogion wedi cymryd llawer, dan ni’n bwyta nhw a mae’r wyrion wrth eu boddau.

Ar wahan i’r ffrwythau, mae’r moron wedi gwneud yn eitha dda, a cawsom lwyth o ffa llydan.  Rŵan mae’r ffa ffrengig yn dechrau aeddfedu.  Dan ni wedi cael dipyn o waith yn dyfrio’r ffa yma - sydd bendant ddim yn hoffi gymaint o sychder.   Ac yn y tŷ gwydr, mae tomatos, ciwcymbyr, pupurau, letys a moron yn ffynu. R'on yn meddwl mae pupurau coch oedd yn tofu - ond fel gwelir yn y llun, pupurau melyn sydd yna.  O ia, ac aubergines, ond dydy'r rheina ddim yn gwneud hanner mor dda a llynedd.  Rhyfedd.

Ond heddiw, er bod yr arolygion tywydd yn gaddo diwrnod sych, dan ni wedi cael cawodydd eitha trwm a glawn prynhawn yma, felly, goebithio ar ol y dyfrio wnes i bore ma, bydd yr ardd yn hapus.  A falle bydd rhaid i fi dorri’r lawnt o’r diwedd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home