Dwi ddim yn siŵr sut dan ni wedi cyrraedd fama mor gyflym. Ond bythefnos yn ol roedd yn teimlo fel ei fod am fod yn haf am byth - poeth, sych....beth bynnag, ar ol haf eitha da ond rhy sych o lawer i arddwyr, mae o’n teimlo’n wir hydrefol rŵan.
Yn gynharach yn y mis aethon i Portland yn
Dorset. Lle diddorol, er nac ond tair diwrnod oedden ni yna yn y diwedd. Gymaint o lwybrau gyhoeddus: sefyllfa ardderchog i ni gan ein bod wedi teithio yna ar trên, felly doedd dim car gyda ni. A cludiant cyhoeddus ardderchog. Mae Portland i weld fel ynys, ond penrhyn a traeth Chesil yn cysylltu a’r tir mawr.
Ac am ddwy diwrnod roedd y tywydd fel canol haf braf - ond dim rhy poeth.
Ond glaw mawr ar y dydd arall. A dyna beth sydd gennyn ni rŵan, ar ol haf mor sych roedd angen dyfrio yn aml. Ond mae rhad dweud bod angen glaw arnon ni. A dwi’n eitha hoff o’r hydref.
O ran y Gymraeg, es i ymweld ac Elizaneth a’i ffrind Enid yn ddiweddar - dwy ferch eitha lleol sydd yn dod o Gymru yn wreiddiol, a mae Elizabeth yn byw ond ryw bum munud i ffwrdd ar droed. Rhyfedd gymaint o bobl Gymraeg sydd o gwmpas - yn lleol iawn.
A nos Iau byddaf i lawr yn Llundain yn y Ganolfan yn y clwb darllen, yn trafod Ar Trywydd LLofrydd - llyfr dwi wedi mwynhau.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home