Ailddysgu

Sunday 27 October 2019

Adar mudol


Ddoe, gyda’r clociau wedi newid, es i’r warchodfa i wylio’r tîm BTO yn modrwyo adar.  Mae rhwyd yn cael ei roi i fyny a wedyn mae’r adar sydd wedi ei dal yn cael ei bwyso a mesuro a modrwyo cyn iddynt hedfan i ffwrdd.

Yr amser yma o’r flwyddyn mae gymaint o adar yn symud o’r cyfandir i fama i dreulio’r gaeaf rhywle mwy gynnes.  Maent yn cynnwys adar fel y coch dan-aden sydd ond yn dod yn y gaeaf a mae yn ffordd mor dda i weld adar yn agos a dysgu mwy amdanant.  Dyma coch dan-aden yn y llaw, e.e:


Ond hefyd, mae niferoedd llawer o adar cyffredin yn codi yn y gaeaf, gan bod adar fel yr aderyn du yn dod o’r gyfandir hefyd, ac adar fel brych y coed yn dod hefyd.



Dwi wastad yn straffaglu i wahanu’r rhain (mistlethrush) a’r fronfraith.  Ond wrth weld y brych y coed yn agos, mae’n bosib gweld bod y lliw ar y cefn ac y pen mwy llwyd.  Wrth gwrs mae’m mwy na’r fronfraith hefyd - ond dydy hynny ddim yn help mawr os dydy nhw ddim efo’i gilydd.

Roedd o’n diwrnod hyfryd ddoe, ar ol glaw di-baid dydd Sadwrn, digon o law dydd Gwener, o a ia, glaw dydd Iau hefyd.  Mae’r afon yn llawn a does dim angen fwy o law, diolch.

Mae ’na aderyn arall bach bach sydd hefyd, rywsut, yn llwyddo i hedfan o’r cyfandir, ond, fel y robin goch a’r fwyalchen hefyd yn byw yma trwy’r amser.  Dwi bron byth yn ei gweld nhw.  Ond ddoe roedd llawer wedi ei dal yn y rhwydi.  Y dryw eurben.  ’Goldcrest’ yn Saesneg.  Ac yn ogystal a chael cyfle i ddod i adnabod yr adar yn well, mae sgwenu amdanynt yn gyfle i trio dysgu  chofio’r enwau Cymraeg.  Felly dyma’r rhestr o’r adar a chafwyd ei fodrwyo - yn Saesneg a Chymraeg:

Wen Dryw
Redwing Coch dan-aden 
Blackbird  Mwyalchen 
Thrush Bronfraith
Great tit Titw mawr
Goldcrest Dryw eurben
Cetti’s warble telor cetti
Robin robin goch
Blackcap telor penddu
Long tailed tit titw cynffon-hir
Dunnock Llwyd y gwrych
Reedbunting Bras y cyrs
Kingfisher Glas y dorlan
Bullfinch Coch y berllan
Blue tit Titw tomos las
Chiffchaff Siffsaff
Mistlethrush Brych y coed

1 Comments:

At 28 October 2019 at 03:27 , Blogger Jan said...

Diolch Ann, wnes i fwynhau rich blog yn fawr! Dyma’r un arall ar gyfer y rhestri: Woodpecker- cnocell-y-coed. Dw I ddim wedi sylweddoli bo mae nhw hedfan tramor yn y haf, ond sylweddolais I bod roeddwn nhw’n dawel yn y haf! Dwi’n gwybod y rheswm nawr!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home