Diffyg blogio a ffwng Hydref
Dwi ddim yn coelio bron fy mod heb gyfrannu i'r blog yma ers mis Medi! Ond mae'r tystiolaeth ar y cyfrifiadur. Beth bynnag, mae'r tywydd wedi newid yn llwyr ers rywbryd ar ddechrau mis Hydref, gyda'r glaw a odd wir angen yn dod o'r diwedd a wedi dechrau, doedd y glaw ddim eisiau peidio. Ond mae hi'n eitha gynnes o had - felly mae'r cyfuniad o pres a gwlypter wedi dod a gwledd o ffwng allan.
Erioed wedi gweld gymaint o fadarch a sydd o gwmpas eleni. Dwi ddim yn hollol sir be ydy'r un yma er ei fod yn edrych yn iwan. Felly wnes i ddim ei fwyta.
Ac er bod hon
yn edrych fel y fath o fadarch dach chi’n cael o’r siop ac yn bwyta, ’yellow ’stainer’ ydy ei henw yn Saesneg, ac yn ol y sôn mae hi’n wenwynig. Mae llawer o bobl yn sal ar ol ei fwyta ond dim pawb. (A dydy o ddim yn eich lladd chi yn bendant). Dwi’n eitha sicr fy mod i’n un o’r rheina sydd yn medru bwyta hon a wedi bwyta fo yn y gorffenol. Ond wrth mynd yn hŷn, dwi’n dod yn fwy wyliadwrus.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home