Ailddysgu

Tuesday 31 December 2019

Blwyddyn Newydd

A dyma ni yn y flwyddyn Newydd.  Dwi wedi gwneud nifer bach o adduniadau eleni, er, dwi’n meddwl mai mis Hydref ydy’r amser gorau – amser ‘mynd yn ol i’r ysgol’ yn hytrach nag yng nghanol y Gaeaf.  Un ohono nhw – a’r prif yn – ydy trio gwneud llai.  Dwi wastad yn meddwl medraf gnweud gormod na fedraf ac yn or-blino a.y.y. b.  Problem byd cyntaf, ynte?   Ond dwi am trio, beth bynnag.  A mi oeddwn yn eitha llwyddianus gyda’r addunidadau llynedd – pethau i drio fod mwy gwyrdd, yn cynnwys peidio bwyta cig.  Doeddwn i ddim yn bwyta llawer o gwbl ond meddwl ei fod yn amser i stopio.  Er fy mod erioed wedi bwyta llawer, a fel arfer ond unwaith yr wythnos yn ddiweddar (cinio Sul) doedd him ddim mor hawdd a hynny.  A doeddwn i ddim am hyd yn oed am trio peidio bwyta pysgod (dwi ddim yn bwyta pysgod llawer chwaith, ond isio cadw at be fydd yn debygol o fod yn llwyddianus!).  Dwi ddim wedi bod yn llwyddianus iawn gyda’r blog yma dros y blwyddyn diwethaf chwaith, ond dim isio gwneud adduniad ychwanegol.

Un peth dwi wedi bod yn gwneud ydy mynd trwy’r lluniau dwi wedi cymryd eleni; cael gewared o llawer ohonyn nhw (er dwi’n trio gwneud hynny wrth tynnu nhw, y problem gyda lluniau digidol ydy ei fod llawer rhy hawdd I dynu ac yn cynyddu fel dw’n i’m be…) a dyma ychydig o’r ffefrynnau o luniau natur.  (Falle bydd mwy i ddod).





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home