Ailddysgu

Sunday 1 December 2019

Nadolig yn nesau

Dyma ni ar ddechrau mis Rhagfyr a Nadolig yn nesau mor gyflym.  Sut mae hynny’n digwydd?  Er gwaetha popeth a phrofiadau digon cymysg dwi’n mwynhau Nadolig.  Dwi ddim yn grefyddol o gwbl a dwi’n casau y pwyslais ar gwario a pherswadio pobl i brynu pethau dydyn nhw ddim isio ac yn aml ddim yn medru fforddio.  Ond, canu carolau, coginio a bwyta pethau da, bod gyda teulu a ffrindiau, darllen llyfrau o flaen y tan, mynd am dro ar diwrnod haelog oer..... maent i gyd  yn werthfawr.

A dyma rhai pethau ’ gwyrdd’ dwi yn gwneud. yn bwriadu gwneud - am wneud dros Dolig ac yn y flwyddyn a ddaw..........Tair? egwyddor am Nadolig...prynu yn lleol, os prynu dillad, prynu dillad mewn ffabric naturiol fel gwlân neu cotwm (organig os bosib), prynu pethau ail-law, a gnweud anrhegion fy hun neu prynu pethau mae pobl eraill wedi gwneud (wel, dyna pedwar!)  

Dwi wedi llwyddo (gydag un neu ddau lapse bach ) i osgoi cig am flwyddyn - a dwi am cario ymlaen.  (Doeddwn i erioed yn bwyta llawer beth bynnag).  Dechreuais arbfrofi gyda bwyd vegan hefyd - ar ol prynu llyfr ail-law o Oxfam - Deliciously Ella - ond doedd rhai o’r ryseitiau ddim yn llwyddianus iawn.  Ond yn y caffi lle dwi’n mynd yn y dre o bryd i’w gilydd (cacenau HYFRYD a chroeso i Teo y ci hefyd) mae ambell gylchgrawn vegan lle mae’r ryseits yn edrych yn hyfryd!! (Ond dim wedi trio nhw eto).

Sut ydwyf am lwyddo i wneud Nadolig yn mwy wyrdd?  Wel dwi wedi trio edrych yn y siopau elusen am anrhegion...wedi cael ambell beth bach ond dim wedi darganfod be oeddwn i isio i’r wyrion.  Felly wedi prynu ffroc cotwm i Teigan, darganfod llyfrau hyfryd ail-law...

A wedi prynu llyfrau yn lleol - dim o Amazon - a chreu ambell i gerdyn Dolig.  Fel arfer dwi hefyd yn archeb ychydig o lyfrau Saesneg a Chymraeg i ddarllen dros y Nadolig.  Dwi’n gobeithio prynu’r llyfrau Saesneg o Oxfam (ail-law) oherwydd ar y funud mae’r llyfrgell lleol ar gau.  Ond bydd rhaid archeb llyfrau Cymraeg o Gaernarfon (Palas Print).  Felly os oes awgrymiadau am lyfrau Cymraeg i ddarllen dros y Dolig, mae diddordeb gen i - dwi ddim wedi gwneud rhestr eto.

Ac o’r diwedd dwi wedi dechrau trefnu i rywun dod i diwnio’r piano.  Hen hen bryd.  Stori arall ydy hwnna!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home