Ailddysgu

Saturday 11 January 2020

Corhedydd y waun


Blynyddoedd yn ol, yr unig lle gwelais corhedydd y waun (am wn i) oedd ar rhosdiroedd neu mynyddoedd, pan roeddwn yn cerdded.  Mewn llawer ffordd, mae o’n aderyn bach di-nod: efallai un o’r rhai mae’r Saeson yn galw’n ’little brown jobs’.  Ond roedd gweld nhw yn arwydd fy mod ar dir eitha gwyllt,  yn aml yn agos i fynyddoedd.  Dwi’n hoff Iwan o'r fath yma o dirlun: mae o’n wyllt ac yn aml yn hardd - a hefyd roeddwn yn dod ar draws yr adar yma pan oeddwn yn cerdded yn y mynyddoedd neu yn agos: rhywbeth sydd wedi bod yn agos at fy nghalon erioed.  Ond doedd o ddim yn hawdd cael golwwg manwl ar yr aderyn yma.  Mae nhw’n swil, ac wrth i chi agosâu, maent yn hedfan i ffwrdd.

Y dyddiau yma, dw ddim yn cerdded yn y mynyddoedd llawer.  Dydy fy mhengliniau dim digon da, ond dwi wedi gweld y corhedydd pan dwi wedi bod yn cerdded ar teithiau cerdded gyda ffrindiau.  Ac ychydig o flynyddoedd yn ol, darganfais rhywbeth cyffrous ( i fi beth bynnag).  Mae’r corhedydd y waun yn byw ac yn iach ond ryw ddeg funud i ffwrdd o fy nhŷ.  Mae llawer o adar tir uchel yn dod i lawr i dir isel dros y gaeaf - a dyna r’on i’n meddwl bod y rhain yn gwneud ar y dechrau.  Dod i’r comin dros y gaeaf.  Ond na, maent yna trwy’r blwyddyn.  A gyda amynedd mae o’n bosib gweld nhw yn dda.  Efalle eu bod wedi bod yna erioed a doeddwn dim wedi sylwi!

Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn gwylio’r corhedyddion - a hefyd clochdar y cerrig - aderyn arall r’oeddwn ond yn gweld pan roeddwn ar fy ngwyliau, ar y comin. Dwi’n hoff iawn o’r ddau.  Ac er bod y gorhedydd ddim yn lliwgar, mae o’n digon hardd.   Dydy bywyd ddim yn hawdd iddo fo.  Mae o’n brif bwyd i lawer o adar ysglyfaethus,  a mae’r gog yn hoffi defnyddio nythod  y gorhedydd hefyd.  Ac yn bendant dwi’n falch dwi’n medru gweld o, mor aml.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home