Ailddysgu

Wednesday, 26 March 2025

Trysor annisgwyl

 


Os ydach chi, fel fi, yn mynychu siopau elusen, byddech yn gwybod ei fod o’n bosib, o bryd i’w gilydd, i ddod at draws drysor.
  Fel arfer, siopau llyfrau ail-law sy’n tynnu fy sylw a dwi wedi darganfod awduron na faswn i wedi cyfarfod oni bai am brynu llyfr mewn siop elusen.  Un awdur Saesneg a ddois o hud iddo'r ffordd yma ydy Colm 
Tóibín a sgwennodd Brooklyn - a chafwyd ei wneud yn ffilm hefyd.  Prynais “The Blackwater Lightship” (llyfr cynnar) heb wybod dim am yr awdur a ches fy swyno gan y ffordd y mae Tóibín yn sgwennu - ac wrth gwrs, erbyn rŵan mae o’n awdur enwog.

Ond ar y cyfan does dim llyfrau Cymraeg ail-law i’w gael yn MK!  (Er, dwi wedi darganfod un neu ddau dros y blynyddoedd).  Un o’r llefydd gorau ar y funud, ac sydd yn gyraeddadwy pan ddwi yng Nghaernarfon ydy’r Siop Elusen Ambiwlans Awyr.  A dyna le ffeindiais y llyfr yma.

Wyddwn i ddim am yr awdur yma - ond dwi wedi cael modd i fyw yn darllen profiadau Dafydd Apolloni yn y llyfr a chafodd ei gyhoeddi dros ugain mlynedd yn ôl.  Dwi’n hoffi’r Eidal a wedi bod yna sawl gwaith yn cynnwys beicio i fewn i Rufain (dim profiad swn i’n gwneud eto, dwi ddim yn meddwl); beicio yn Tyscani a gwneud cwrs preswyl Eidaleg yn Montepulciano.  Mae Dafydd yn gallu sgwennu’n dda ac yn gwneud i chi deimlo eich bod chi yna yn Rhufain.  (Braidd ormod am y beldroed a chwaraeon, i fi, ond roedd cliw yn y teitl!).


Ac i ddod yn ol at Colm Tóibín, dwi wedi gorffen darllen “Y Magician” yn ddiweddar:  llyfr dan ni'n darllen ar gyfer y clwb darllen lleol.  Mae hi'n lyfr gwych - nofel, ond wedi ei seilio ar bywyd Thomas Mann yr awdur ac yn llawn o hanes cymdeithasol diddorol ynglyn a stori cryf am yr awdur a'i deulu.

Monday, 24 March 2025

Bywyd gwyllt yr ardd (rhan 1)



Dwi ddim wedi sôn eto am y draenog bach a ymddangosodd yn ein gardd dros bythefnos yn ôl.  Ar ddydd hyfryd penderfynais dorri’r gwair am y tro gyntaf eleni ac wrth i fy ngŵr fynd i nol y peiriant torri gwair dyna le'r oedd y creadur yn y gornel, a dim yn edrych rhy dda.  Mae’n rhaid ei fod wedi deffro o aeafgysgu ac yn ddryslyd.  Yn ôl y milfeddyg maent yn aml eisiau dŵr a bwyd ar ôl deffro ac felly rhoddais y draenog mewn blwch sgidiau gwag gyda bowlen fach o ddŵr a thipyn o fwyd draenog a rhoi’r blwch yn y tŷ bach tu allan.  Ar ôl ryw awr roedd y draenog wedi bwyta’r bwyd ac yfed y dŵr ac yn edrych yn llawer gwell.  A dyma fo, yn nwylo fy ngŵr cyn iddo fo gael ei adael i lawr ar y lawnt.  Aeth y draenog yn syth i’r blwch draenog sydd yn yr ardd.  ond yn hwyrach,  gyda’r nos, roedd o allan eto, yn cael mwy o fwyd a dŵr.

 


Ond rhaid dweud ’hi’ erbyn hyn.  Tri diwrnod yn ôl, roedd dau ddraenog i’w gweld, draenog ’ni’, sydd ddim rhy fawr, ac un arall llawer mwy.  Mae’r ddau wedi bod gyda'i gilydd ac yn cylchu o gwmpas ei gilydd fel mae draenogod yn gwneud pan maen nhw’n paru.  Maen nhw’n bwyta digon hefyd!  Efallai, wrth eu bod yn brysur yn gwneud rhywbeth pwysig, mae o’n help mawr fod bwyd yn cael ei roi i lawr.

Taith cerdded niwlog



Dyna oedd y sefyllfa fore Sul a phobman yn dawel iawn mewn un ffordd ond bod yr adar yn canu.  Felly es am dro heb y sbindrych (doeddwn ddim yn medru gweld llawer beth bynnag) a heb y camera - ond, wrth gwrs, roedd y ffôn gyda fi fel arfer.  Ac am y tro gyntaf am oes, defnyddiais ap “Merlin”. Daw’r ap yma o America o brifysgol Cornell ac mae o’n ddefnyddiol iawn ar gyfer adnabod caneuon adar

 

Mae o yn adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon ond rywsut mae o hefyd yn methu “clywed” rhai, fel cnocell y coed.  Sawl gwaith clywais sŵn y gnocell ond wnaeth yr ap ddim sylwi arni hi, tan iddi hi ddod yn eithaf agos.  Ac mae’r ap weithiau yn meddwl bod adar yna er fy mod i’n meddwl ei fod yn annhebyg iawn bod yr aderyn yna wedi ei chlywed.  Ond ar y cyfan mae o’n gweithio’n dda.  Mae o’n ffordd dda o edrych allan am ryw aderyn sydd o gwmpas.

 

A gyda’r niwl, roeddwn yn sylwi ar y caneuon llawer mwy nag arfer, sydd yn beth dda.

Tuesday, 11 March 2025

Bywyd gwyllt mis Chwefror a dechrau mis Mawrth

 Wel mae’r tywydd wedi troi, a Gaeaf i’w weld yn ôl ar ôl wythnos o haul mwyn ar ddechrau mis Mawrth.  Fel sgwennais i yn y blog diwethaf llwyddais i i fynd i Gaernarfon am sbel fach fach, ond serch hynny gwerth chweil. 

Ac mae natur wedi bod yn garedig hefyd dros y cyfnod diweddaraf.  Daeth aderyn prin i’r comin ym mis Chwefror, “Richard’s pipit”.  Mae hwn yn byw yn bell i ffwrdd ac yn nythu mewn gwledydd fel Siberia, Mongolia a rhan o Tsieina gan fudo i’r De dros y Gaeaf fel arfer, ond mae nifer bach, dwi wedi dysgu, yn gaeafu yn y wlad yma.

 

Gyda’r cynnwrf o’r aderyn prin yma ar y comin, daeth haid o adarwyr hefyd, a diddorol oedd cael sgwrs gydag ambell un.  Dysgais fod giachod yn y rhan wlyb o’r comin (dim yn bell o’r maes parcio) ac yn wir, gwelais un yn hedfan.  Aderyn brown ydy hwn, ond mae o wir yn brydferth. A hefyd mae “jack-snipe” yna (sydd yn fwy prin), ond dwi ddim wedi gweld hwn.  Wrth ddilyn yr adarwyr cefais gip ar y “Richard’s pipit”.  Gwahanol iawn i’r  corhedydd y waun dan ni’n gweld ar y comin ac yn llawer mwy o ran maint.

 

Dysgais hefyd bod y dylluan wen yn ôl ar y comin.  Ar y dydd Sul ar ôl gweld y gorhedydd prin, es i i’r comin i fynd a’r ci am dro yn y prynhawn ac roedd yr haul yn gynnes.  Syndod felly oedd gweld tylluan wen yn hedfan am ryw hanner awr wedi pedwar.  Trïais dynnu lluniau gyda’r camera bach, ond yn anffodus roeddwn wedi troi fideos bach ymlaen heb i fi sylwi!  Es i yna gyda fy ngŵr y diwrnod canlynol, ond wrth gwrs, dim tylluan!  Fel yna mae hi gyda bywyd gwyllt!

Tuesday, 4 March 2025

Gwibdaith Gŵyl Ddewi 2025

Gwibdaith go iawn, eleni.  Doeddwn i ddim yn medru cymryd llawer o amser i ffwrdd ac felly penderfynais fynd ar dydd Gwener a dychwelyd ar ddiwedd prynhawn Sadwrn.  Ond gyda’r trên yn cael ei ddileu, roedd rhaid cael trên cynharach i ddod yn ôl.

 

Serch hynny roedd y tywydd yn hyfryd a Chaernarfon yn sgleinio yn yr haul. Mae hi wastad yn braf cael bod yn rhywle lle mae’r Gymraeg yn eich amgylchynu: o ymuno â’r trên yng Nghaer tan gyrraedd Caer ar y ffordd adre.



 

Es I i ddarlith gan Bob Morris bore dydd Sadwrn am Eisteddfod Llangollen (Eisteddfod Genedlaethol) 1858.  Stori gyffrous gyda chymeriadau angerddol ac weithiau braidd yn wallgo.  A mwy nag un ffrae; yn wir, parhaodd y ffraeo am rai blynyddoedd.  Dwi wedi gwrando ar Bob Morris o’r blaen ac mae o wir yn gwybod ei bethau a’i hanes ac yn gwneud y ddarlith yn fywiog. 

 

Wedyn sesiwn am y gyfres Amdani, ac am sgwennu llyfrau i ddysgwyr neu ddarllenwyr newydd: sgwrs rhwng Eirian James â’r awdures Mared Lewis.  Mae hi’n wir ddiddorol gweld sut mae hi (ac eraill) wedi mynd amdani (sori) i sgwennu’r llyfrau yma.  Darllenais Fi a Mr Huws heb wybod mai lyfr ar gyfer dysgwyr ydi o.  Ond mae hi’n stori dda - a dyna’r pwynt, bod y llyfrau yn darllen fel unrhyw nofel dda - ac yn gwneud i chi isio troi’r tudalennau.

 

Doeddwn i ddim wedi sylwi bod y llyfrau yma wedi eu sgwennu i ddilyn patrymau’r iaith mae dysgwyr ar y safon yna yn gyfarwydd â nhw.

Monday, 3 February 2025

Haul mis Ionawr - a tywydd ddiflas

 Mae’r tywydd yn ddiflas eto:  llwyd a smicio glaw.  Ond, cawson ddiwrnod hyfryd dydd Sul - llawn haul, a gwelais a chlywais yr ehedydd gyntaf y flwyddyn (i fi!). Wastad yn codi calon.  Anodd cael llun da o ehedydd - dyna un prosiect eleni - ond dyma lun o’r gorffennol.



Ac roedd dydd Iau yn hyfryd hefyd, er i’r haul diflannu yn y prynhawn, felly i ffwrdd i’r coed agosaf.  Mae ‘na rywbeth am goed, hefyd, sydd yn dod a thawelwch pan maen nhw o gwmpas.  Dydw’i ddim yn byw mewn ardal goediog ond mae ‘na choedwig fach hynafol dim yn bell i ffwrdd.  “Linford Wood” ydy hon ac mae hi’n goedwig hynafol, ond bach.  


Er hynny, roedd hi’n braf iawn cael crwydro trwy’r coed.

Monday, 27 January 2025

Fforio

Mae rhannau o’r ddinas heb eu datblygu eto.  Mae un llecyn sydd heibio'r gamlas neu y tu ôl iddi hi, ar waelod yr allt sydd yn dringo i ganol y ddinas ac i’r parc dinasyddol, Parc Campbell.  Dwi’n cerdded ym Mharc Campbell  yn eithaf aml, ar ôl cael cinio gyda fy ffrind, ar ddydd Gwener.  Ac mi roedd hi’n braf ddydd Gwener diwethaf, er yn wyntog.  Roedd storm Eowyn yn gryf, gryf mewn sawl ardal, ond dim yn fama,  Dan ni’n lwcus o’r safbwynt yna, yn aml yn osgoi’r tywydd gwaethaf gan ein bod yng nghanol y wlad.

 



Ac at Barc Campbell roedden ni nyn anelu, ddydd Gwener, tan i fi sylweddoli bod y defaid yna.  Yn Milton Keynes mae defaid a gwartheg ar gael yn y ddinas.  Ond meddyliais ei fod yn well i fi osgoi’r parc a’r defaid, gan fod gan y ci ormod o ddiddordeb ynddyn nhw (er ei fod ar dennyn).  Felly i lawr heibio’r parc at lecyn sydd heb gael ei ddatblygu, er, am ryw reswm, mae llwybrau yna fel petai'r lle yn aros am dai gael eu hadeiladu - a dyna sydd am ddigwydd.  Nid tai ond fflatiau.  Ond am rŵan, lle gwyrdd, gyda digon o wrychoedd a choed, i fforio.  Mi faswn yn meddwl ei fod yn lle gwych ar gyfer natur a digon gwyllt fel gwelir yn y lluniau.



Mae hi’n drist meddwl bydd yr holl ardal yma o dan concrit mewn tipyn a hefyd bod y fflatiau am fod yn uchel.  Am flynyddoedd y syniad oedd nad oedd MK am gael adeiladau uchel – ond gan bod angen tai penderfynwyd ei fod yn iawn i adeiladu yn uchel.  Trueni.