Ailddysgu

Monday 24 October 2022

Covid a darllen


Wel, yn fy malchder, roeddwn yn wir gobeithio fy mod wedi osgoi Covid, ond na. Ar ol dechrau gyda dolur gwddw, nos Wener, datblygodd cur pen enfawr a chyfog – a’r diwrnod wedyn cymerais y prawf a ddaeth yn ol yn bositif.  Dwi’n teimlo’n llawer gwell nag oeddwn erbyn rŵan, ond wedi gorfod gohirio neu ddileu ambell ymweliad gan gynnwys dal i fyny am goffi a sgwrs gyda’r ddwy ferch (a ffrindiau) sy’n byw ar bwys y comin, bore Iau nesaf.  A felly ar ol gwneud rywfaint o waith, cysgu dipyn a.y.y.b, es at i i chwilio am bodlediadau Gymraeg.  Mae llawer ar gael yn fama: https://ypod.cymru/all.  Yn enwedig, gwrandawais ar y bennod lle roedd Rebecca Roberts y trafod #Helynt. https://ypod.cymru/podlediadau/bywllyfrau?id=bywllyfrau&CatID=6&Cat=Sioeau%20Ffeithiol#Siarad%20Llyfrau%20gyda%20Rebecca%20Roberts

Ar gyfer bobl ifanc mae’r nofel yma, a mae o’n dda, ond dim cystal (i’r oedolyn yma) a Mudferwi a’r dilyniant Chwerwfelys.  Wedyn mi es yn ol i hen bennod Ar y Silff a oedd yn trafod Te yn y Grug a sylwyddolais nad oes gen i gopi o’r llyfr ar fy silff i a heb ei ddarllen am amser maith felly es at i i gael copi newydd o’r llyfr a hefyd, llyfr ddiweddar John Alwyn Griffiths.  Dwi erioed wedi cael fy siomi gan llyfran JAG.  Mae’r Gymraeg yn dda, a’r stori yn afaelgar, bob tro.  Llyfr ddelfrydol os dach chi ddim yn teimlo’r rhy gryf felly. 

 

Ac am gyd-ddigwyddiad.  Daeth elythyr Palas Print ataf fel ebost yng nhynnwys yn darn yma a sgwennodd Eirian James, cyd-berchennog Palas Print ar gyfer Nation Cymru.  Dyma’r cyswllt:

https://nation.cymru/culture/my-reading-life-eirian-james/

Diddorol gyda digon o syniadau ac ysbrydoliaeth. 

Thursday 20 October 2022

Glaw a haul

 Roedd hi’n wlyb iawn yma bore ’ma, sydd yn anarferol yn yr ardal yma - a felly mae o’n werth dal bob diferyn o law a mae’r bwcedi o dan y tŷ gwydr yn dal gymaint a phosib.  


Mae’r “butts” hefyd yn casglu’r dwr ac yn ei chadw. Ond erbyn y prynhawn daeth yr haul allan - a goleuo’r coed, yn enwedig y goden eirin gwlanog sydd mewn potyn tu allan i’r tŷ.  Dyma’r goeden trwy’r ffenestri a dyma hi yn yr ardd.  Mae’r lliwiau hydrefol mor hardd ar y funud.




 

Tuesday 11 October 2022

Dechrau mis Hydref yn yr ardd

Mae gymaint i’w wneud yn yr ardd.  Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn garddio, yn garddio, ac yn garddio....Mae’r hydref yn amser gwych yn yr ardd: mae’r pridd yn gynnes ar ol yr haf - ac eleni, dan ni’n falch o gael dipyn o law ar ol yr holl sychder a’r tywydd poeth. Mis diwethaf roeddwn yn cymryd toriadau o blanhigion fel y salvia a’r osteospermum,  a wedi gwirioni wrth weld bod gwreiddiau da wedi datblygu yn barod.  Dyma un mewn potyn bach (roedd gorchudd plastic arnyn nhw, yn y tŷ gwydr).


 

Amser hefyd i drio gadw planhigion salad trwy’r gaeaf, os dach chi’n dechrau ym mis Awst (yr amser gorau) neu, falle, mis Medi (roedd Awst rhy boeth eleni).  “Artic King” ydy’r letysen yma - gobeithio bydd rhai ohonyn nhw yn barod cyn y Gwanwyn, ond cawn gweld. 

 


Mae’r rhain yn y tŷ gwydr hefyd, ond ddylse nhw fod yn iawn yn yr ardd.  A dyma nhw eto dan “cloche” plastig. 



 Tu allan i’r tŷ gwydr mae ’na ddigonedd i’w wneud hefyd.  Mae’r compost wedi datblygu’n dda



a mae hwn yn mynd dros y gwlau llysiau fel carped clyd dros y gaeaf.  Un o’r tasgau bleseris i’w ddod ydy plannu’r bylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn.