Ailddysgu

Sunday 9 April 2017

Taith cerdded: "Shropshire Way": rhan 1

Mae’r gwanwyn yn ei anterth rŵan, yn yr ardd.  A felly hefyd roedd hi ar y taith cerdded, wythnos diwethaf, gyda ffrindiau, yn cerdded rhan o’r “Shropshire Way”. 
Cerdded o Church Stretton yn dechrau dydd Llun a chyraedd Ludlow prynhawn Gwener.  Mae'r taith cyfan yn llawer hirach - ond gyda dim ond pum diwrnod a phawb yn ei oedran, roedd hyn yn ddigon i ni.

Dyma taith dan ni’n gwneud bob blwyddyn - dim i’r un lle, ond taith lle dan ni’n cerdded bob dydd, aros mewn gwestŷ dros nos, a mynd ymlaen y dydd ganlynol. Mae'n cyfle i sgwrsio tra bod ni'n cerdded a dros cinio gyda'r nos, i fod allan yn y cefn gwlad, ac ymlacio - ac i gryfhau'r cyhyrau sydd ddim yn gweld bryniau yma yn MK!

’Roedd y tywydd yn garedig; dipyn yn oer a gwyntog ar y bryniau, ond daeth yr haul allan yn aml.  A rywsut mae ychydig o dyddiau i ffwrdd o’r byd bob dydd, mewn llefydd yfryd yn bwydo’r enaid.

Dyma ychydig o luniau.  Mwy yn rhan 2!