Ailddysgu

Friday 27 November 2020

Adar ar y comin

 Gyda dipyn llai o law wythnos yma dwi wedi mentro’n bellach ar ein comin, hyd at yr afon, er ei fod yn fwdlyd ofnadwy.  Mynd am dro gyda ffrindiau bore Llun a’r haul allan, a gweld hwyaden ddanheddog ar yr afon: goosander yn Saesneg.  Faswn ddim yn dweud ein bod ni yn ein gweld nhw trwy’r amser yma, ond dydyn nhw ddim mor anghyffredin a hynny chwaith.  Fel rhywun o’r wythdegau gyda’r gwallt ’pync’!



Heddiw mae hi wedi bod yn niwlog, ond roedd ddoe yn ddiwrnod bendigedig ac yn heulog trwy’r dydd.  Roedd y cudyll coch yma wedi bod yn hela ac yn bwyta ei chinio yn y llun cyntaf - iar ydy hon, a welais hi wedyn hefyd cyn gorfod troi am adre’ ac ailddechrau ar fy ngwaith.




Friday 20 November 2020

O'r add i'r gegin

 O’r ardd i’r gegin

Mae yna dipyn o lysiau o’r ardd ar ôl, fel y pwmpenni yma.  



Uchiki Kuri ydy enw’r fath yma, a gan eu fod yn dlws mae nhw wedi bod yn cael eu ddefnyddio fel addurniadau hyd at hyn, ond hen dro iddyn nhw gael eu fwyta.  A fel dach chi’n gweld yn y llun, roedd rhan o un ohonon nhw yn dechrau pydru, beth bynnag.  Ffeindiais ryseit a oedd yn edrych yn dda yn fama:  llyfr a ddaeth yn ol gyda fi ar ol i fi fynd ar gwrs coginio llysieuol yn Bath, amser maith yn ol.


 Cyri amdani felly: roedd bron bob gynhwysyn gen i - heblaw ffa gwyrdd a tomatos, ond gan fy mod wedi rhewi ffa a tomatos mewn ryseit Groegaidd meddyliais fasen nhw yn gwneud y tro. 


Un peth da am y pwmpenni Uchiki Kuri ydy bod y cnawd yn fwytadwy a dim rhy dew.   Ar wahan i reis, yr oll oeddwn i angen wedyn oedd salad i fynd gyda’r cyri - ac yn y tŷ gwydr roedd digon o letys a coriander hefyd - ar gyfer y cyri ei hun.

 

Mae o mor braf cael defnyddio be dach chi wedi tyfu eich hunan ar gyfer bryd o fwyd blasus.  A mi roedd yn flasus iawn.

Thursday 5 November 2020

Treigl y tymor

 



Dyma’r aubergines olaf.  Dechrau mynd felly oedd rhaid eu goginio, a roedden nhw yn flasus iawn.

 Mae treigl y tymor wedi bod yn wahanol eleni, dwi’n credu.  Yn enwedig gyda’r ail cyfnod clo wedi dechrau. Fel arfer, mae cyfleoedd i fynd i ffwrdd; cael cinio gyda ffrindiau; i’r clwb darllen Llundain cyfarfod yn y bar; i’r cylch siarad Cymraeg Milton Keynes cyfarfod yn y tafarn ac i’r holl deulu ddod i gael cinio dydd Sul...  Roeddwn wedi trefnu mynd i aros gyda ffrind sydd yn byw yn Llandeilo.  Dwi ddim wedi ei gweld hi ers y llynedd.  Roeddwn yn gobeithio mynd yna ym mis Ebrill eleni, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn bosib ac felly penderfynnon fy mod am fynd ar ddiwedd fis Hydref.

Ond mae’n anodd rhagweld yr effaith.  Dwi’n ffodus iawn: dwi ddim yn byw ar ben fy hun; dwi’n gweithio hanner amser ac yn medru gweithio o gartref ac mae gen i ardd fawr lle dwi’n hapus iawn yn treulio amser - a chomin yn eitha agos, lle dwi’n medru cerdded a gweld bywyd gwyllt.  Ac o ran Covid, dydy pethau ddim yn ddrwg yn lleol ar y funud. Ond yn sicr bydd y gaeaf yn anoddach i bawb- ac yn anodd iawn i rai.

 

Dyma rhan o fy rhestr pbersonol i drio cadw’n siriol trwy’r cyfnod hwn (neu rhan ohono fo!):

 

·      Darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg.  Am ryw reswm doeddwn ddim wedi dechrau ar lyfr Cymraeg ers i mi orffen Myfi Iolo ryw chwech wythnos yn ol.  Mae hyn yn anarferol.  Felly dechreuais ar lwyth bach o lyfrau yn aros amdanaf yn cynnwys ’Ar Lwybr Dial’ gan Alun Davies.  Dwi’n hoff iawn o lyfrau ditectif ac wedi mwynhau y gyntaf yn y gyfres a ‘roedd hwn yn dda hefyd.  Archebais a darllenais llyfr arall o Balas Print yng Nghaernarfon a byddaf yn meddwl am ba lyfrau Cymraeg dwi isio darllen dros ’Dolig.  (Mwy am hynny yn y man).  Dan ni’n darllen Gwreiddyn ar gyfer y clwb darllen Llundain, felly dwi wedi dechrau hwnnw - ond rhaid dweud, dwi ddim yn ei hoffi llawer.  Mae Caryl Lewis yn hynod o ddawnus, ac yn sgwennu mor dda, ond dydy ei storîau hi ddim yn siriol o bell ffordd.

 

·   Dal i fyny gyda rhai o’r digwyddiadau rhithiol sydd ar gael o hyd.  Mae tipyn i’w gael o hyd ar wefan Gwyl Arall 2020 fel ’Sgwrs trysorau coll Caradog Pritchard’.  Dwi wedi dechrau gwrado ar y sgwrs ond dim wedi gorffen.

 

·      Fel ffotographydd brwd, mae gymaint o luniau ar y gliniadur sydd angen sortio a dileu - dyddiau o waith yn fana!

 

·      Gwaith yn yr ardd, fel plannu ffa llydan.  Gwell o lawer gwneud hyn yn yr Hydref.  Mae’r planhigion yn gryfach ac yn gwrthsefyll y pryfaid duon afiach yn well.

 

Gwylio rhaglenni Cymraeg a Saesneg – yn aml ar yr iPlayer.  Ar y funud, un o fy ffefrynau Cymraeg ydy ‘Am Dro’- ond mi fyddaf yn gwylio rhaglenni mwy ddifrifol hefyd, wiethiau, fel Pawb a’i Farn a hefyd gwrando ar y radio.  Ac un ffefryn fawr (teledu, dim radio) ar y funud ydy ‘Inspector Montalbano’. Cyfle i drio gofio fy Eidaleg, a gweld tirlyn anhygoel Sicily – a chael hwyl!