Ailddysgu

Sunday 26 November 2017

Penwythnos brysur

Dwi'n siwr mai fel hyn bydd hi, i rai raddau, rhwng rwan a 'Dolig.  Ond fy mai i, yn unig, ydy gwneud y peth yn waeth trwy penderfynny gwneud jam - wel, jeli, i ddefnyddio'r cwrans duon yn y rhewgell a'r cwrans coch  - mae rhai ohonynt wedi bod yna am dair flwyddyn dwi'n meddwl.

A doeddwn i ddim yn disgwyl gorfod mynd a'r ci i'r filfeddyg prynhawn Gwener, oherwydd ei fod wedi rhywgo un o'i grafangau ac yn gwaedu - ond yn ffodus, roedd yn medru cael triniaeth heb gorfod aros rhy hir  o gwbl.  Rhedais allan o amser gyda'r jeli ar ol gwneud rywfaint o jeli cwrans coch - a rhoi'r cymysgedd o'r cwrans duon a siwgwr a.y.y.b. yn yr oergell yn barod at heddiw.  Ddoe, treuliais y ddiwrnod yn Llundain.  Ein tiwtor y tro yma oedd Sian Northey, a fel arfer, cawsom diwrnod gwych, gyda chwech ohonon ni yn y ddosbarth, felly digon o amwer i drafod, a trio gweithio ar tasgau fel cyfiethu sydd wastad yn creu sgwrs diddorol.

A gan fy mod yn Llundain, es ymlaen i dreulio'r noswaith gyada ffrind dwi ddim yn gweld digon aml.    Paned o de mewn 'patisserie' a wedyn i'r South Bank ar y bws i gadw allan o'r oerfel - gan nad dwi'n medru cerdded gormod.......a cael diod bach o win tra'n clywed cor gweiddi!  Erioed wedi clywed y rhain o'r blaen: edrych fel  cor meibion, ond gweiddi yn hytrach na chanu.  Dyma'r fath o beth - diddorol ond dwi'm yn siwr os faswn yn talu!  A wedyn yn ol ar y tren ar ol cael pryd o fwyd Twrceaidd, gwych.

Felly yn ol  i'r jeli heddiw, unwaith i'r teulu mynd ar ol cinio - a doedd dim gymaint i ddangos am yr hol drafferth!  Dyma sut wnes i'r jeli cwrens coch- gyda 'muslin'


Ond cymerodd mor hir, nes i drio heb y 'muslin' gyda'r cwrans du - a dyma'r canlyniad:



dau botyn yn unig o bob un! Dwi ddim yn meddwl bydd anrhegion Dolig yn fama rywsut....

Sunday 12 November 2017

Ymwelwyr newydd dieisiau: allium leaf miner.


Mae’r penglin yn gwella’n raddol ac ar ol yr ymweliad i’r “physio” [dros wythnos yn ol rŵan], r’oedd rhaid i fi fynd i’r ardd i wneud jyst dipyn dipyn bach.  Soniais am gynhaeafu’r tatws.  Hwre!  A wedyn codi dipyn o’r cennin…..

Ond, wrth paratoi’r cennin i wneud cawl dydd Sadwrn, darganfais creaduriaid bach yn y cenin – a r’oedd cyflwr y cennin ddim more dda a ddylsen nhw fod chwaith: roedd rhaid rhoi cryn dipyn o rai blanhigion yn y compost. 
Mae ‘na llun yn fama o be welais i yn y cennin:



Creadur bach, epil yr “allium leaf miner”.  R’oedd rhaid gwglo fo: d’o’n i rioed wedi clywed am y pry’ma.  Mewn ffordd, debyg I’r “carrot fly” sydd hefyd yn hedfan ac yn dodwy mewn planhigion.   

Ond mae’r un yma yn ymosod ar cenin, garlleg, sialots, nionod a.y.y.b.  Yn ol y gwybodaeth, nae’n anodd iawn trin, heblaw eich bod chi yn gwarchod y cenin dan rhwyd neu fleece – ond dydy hynny ddim yn gweithio’n dda I genin.
Yn 2OO2 cyrrhaeddodd y pryf .  Cyn hynny, doedd o ddim yn y wlad.  Dwi’n meddwl byddaf yn dechrau’r cenin yn y tŷ gwydr, yn plannu nhw allan ar ol i’r genhedlaeth gyntaf orffen a gobeithio bod y planhigion wedi aeddfedu digon cyn yr ail genhedlaeth o’r pryfed ofnadwy yma.  Ond bydd o ddim yn hawdd cadw cenin trwy’r gaeaf felly.

Ond i orffen gyda rywbeth mwy hapus: mae’r adnyweddiad o’r tŷ gwydr wedi cwblhau.  Mae dipyn bach mwy o waith ar ol i’w wneud blwyddyn nesa, ar ol i’r tywydd cnesu rywfaint.  Ond mae o’n edrych mor dda.  A dwi’n brysur clirio a tacluso ty mewn – a digon o waith i’w wneud!  Dyma llun o'r to cyn y gwaith:


 A dyma'r to ar ol y gwaith:


Ac yn ogystal a'r to newydd, mae'r problemau gyda'r pren yn pydru ty fewn wedi datrus hefyd:

Dyma sut oedd rhan o'r ty gwydr cyn y gwaith: falch iawn bod y gwaith wedi cael ei wneud!  



Does dim llun o fama ar ol y gwaith ar y funud ond dyma'r ty gwydr  o'r ty allann rwan: edrych yn dda!

Saturday 4 November 2017

Tatws a chenin


Gyda glaw ar y ffordd heddiw - a mi ddaeth, hefyd - amser i drio gynhaeafu’r tatws.  Dwi’m dweud trio oherwydd bod y coes ddim wedi gwella eto, ond do, mi wnes i lwyddo i wneud chwarter awr fach o godi tatws.  Hwre!  A dyma nhw. Tatws "Jersey", ond dim yn datws newydd bellach ond yn datws eitha fawr.




“On a roll” fel fase’r Saeson yn dweud, mi es  ymlaen i godi ychydig o genhinen. Mae rhai wedi dioddef o’r tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn ond erill yn dda.




Felly cawl cennin amdani heddiw: “comfort food” - be ydy’r Cymraeg am hyn - ar gyfer tywydd glawiog diflas.  OND, bydd dim rhaid dyfrio’r pwll, gobeithio.

Wednesday 1 November 2017

Dechrau mis Tachwedd

A dyma ddechrau fis Tachwedd! Dwi ddim yn medru cerdded yn bell o gwbl ers syrthio, na arddio.....felly pwyll bia hi, a bod yn amyneddgar.  [A dwi ddim yn dda am hynny ond yn trio gwella]!  Dwi wedi bod yn darllen dau lyfr newydd Cymraeg, sef Gwales gan Catrif Dafydd a Golwg Newydd ar yr hen Ogledd gan Glen George.


’Roedd yr adolygiad o Gwales a chlywais ar rhaglen Dewi Llwyd yn dda, ond adolygiad arall a ddarllenais ar ol dechrau darllen y llyfr mwy gymysg.  Hyd at hyn, dwi ond wedi cyraedd tudalen 36, a dydy’r llyfr ddim wedi ’gafael’ eto, a’r iaith i fi [iaith anffurddiol Caerdydd? yn anodd];  felly mwy yn y fan [a da hefyd oedd darganfod blog Bethany May!; ewch i edrych].

Mae’r ail lyfr yn wahanol iawn.  Llyfr ffeithiol am hanes yr hen ogledd - o’r cyfnod Mesolithig i Oes y Llychlynwyr.  Darllenais llyfr Neil Oliver, A History of Ancient Britain, yn ol yn y gaeaf, a mwynhais yn arw, felly roeddwn yn hapus i ddarllen mwy - yn enwedig gyda chysylltiad Cymreig.  Mae’n dda gweld llyfr fel ’ma yn y Gymraeg [ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydy bod yr ardal yn rhan o’r hen Gymry, unwaith]. Mae’r iaith yn fama yn eitha ffurfiol, gyda geiriau  a geirfa enwedig mewn llefydd; felly dipyn o her, ond diddorol hyd at hyn [wedi cyraedd tudalen 52!]