Ailddysgu

Saturday 27 July 2013

Gwenyn a ieir back y ha


Yn y tywydd poeth diweddar mae gymaint  o wenyn a ieir bach yr ha wedi dod i’r ardd.  Mae echinops - “globe thistle“  i’w gweld o’r gegin a mae’r planhigyn yma yn deny haid o wenyn.  Roedd fy ngŵr yn trio cyfri faint o wenyn oedd ar un flodyn - efallai deuddeg!  Doedd o ddim yn bosib cael llun da ohonnyn nhw i gyd, ond dyma lluniau o’r iPhone ( y peth agosach) i ddangos rhai ohonnyn nhw.  




Mae na o leiaf ddau rywogaeth hefyd - un gyda cefn oren - Bombus pascuorum (yn ôl y llyfr Garden Wildlife of Britain and Europe gan Michael Chinery, sydd yn dda iawn oherwydd dydy o ddim yn cynnwys gormod, ond y rhywogaethau boblogaidd).

Ac eleni, gyda’r tywydd poeth haelog, mae’r ieir bach yr haf wedi dŵad hefyd.  Llynedd roeddwn nhw yn brin ofnadwy, ond ddoe, roedd haid bach ar y Buddleia yn cynnwys y rhain:



Canlyniadau’r Arholiad Uwch



Daeth llythyr wythnos diwethaf i ddweud fy mod i wedi llwyddo yn yr arholiad uwch a wedi cael gradd A!  R’on i’n hapus iawn gyda’r canlyniadau yma.  Yn ôl yn 1970, mi wnes i sefyll fy “O” lefel Gymraeg – ond ‘roedd rhaid i fi wneud yr arholiad ar gyfer plant iaith gyntaf Cymraeg – oherwydd dyna’r dosbarth roeddwn i ynddo yn yr ysgol.  Efallai fasai hynny yn iawn, taswn i wedi dysgu y gramadeg yn y dosbarth achos doedd Cymraeg ddim yn iaith gyntaf i fi – a doedd y treigladau a pethau eraill gramadegol dim yn dod yn naturiol.  Ond doedd dim gwersi am y rhain, a  methu wnes i, ar ol colli unrhyw diddordeb yn yr iaith, gan fod fy ngwaith yn dod yn ôl gyda marciau coch ar draws o i gyd.  Felly dwi’n teimlo fy mod i wedi llwyddo yn y diwedd – ychydig o flynyddoedd wedyn.  Dwi’n gobeithio mynd i’r Eisteddfod i dderbyn y tystysgrif er fy mod i ddim yn medru aros yn hir.

Monday 22 July 2013

Bwyta o’r ardd


Cawsom ddiwrnod ardderchog  yn yr ysgol coginio dydd Sadwrn.  Mae’r ysgol yn cael ei redeg gan Rachel Demuth.  Dwi wedi bod unwaith o'r blaen a chael profiad anhygoel pryd hynny hefyd - bwyd gwych, dysgu gwych mewn sefydle ardderchog. A mynd adref gyda dipyn o wybodaeth newydd - ac ysbrydolaeth.  Bwyd  Deheuol Eidaleg oedd ar y fwydlen.  Felly gwnaethon mewnion?? (fillings) ar gyfer rafiloli a pasta eraill – a gwnaethon y pasta hefyd, sawsiau gwahanol a pwdinau.  

Dwi ddim wedi cael llawer o amser i ymarfer ar old dwad adref, ond dwi wedi defnyddio dipyn o gynwys  o’r ardd i wneud salad Eidaleg gwyrdd gyda spigoglys, rocet, perllys: dwi wedi trio dau fersiwn wahanol rwan; un efo cnau cyll o’r perllen gerila (cnau llynedd).



Hefyd mi wnes i ‘salsa verde’ gyda basil, mintys a.y.y.b.  Dwi wedi meddwl am gwneud y saws yma am dipyn o amser ond byth wedi trio o’r blaen.  Mae ryseits gwahanol ar gael – dyma un gan Nigel Slater

A dyma llun o’r un y cawsom ni. 

Yn y diwedd, cawsom y saws gyda tatws newydd – dim rhai ni o’r ardd (er bod y rhain bron yn barod dwi’n meddwl).

A dyma ddwy lun arall o’r ardd.  Dwi wedi treulio llawer o amser yn dyfrio (yn y bore gynnar a gyda’r nos) a casglu ffrwythau a llysiau.  Dyma’r pŷs - y tro cyntaf i fi tyfu nhw:


A'r mafon - sydd ddim yn hoff o'r tywydd poeth o gwbl.

Saturday 20 July 2013

Yn Bath

Dyma ni - fy mab a fi - ym Math. Fory dan ni ar cwrs coginio llysieuwyr sy'n cael ei redeg fan Rachel deMuth. Edrych ymlaen!

Wednesday 17 July 2013

Pethau drwg o'r Ardd

Pryfed du ar y ffa llydan - ych a fi. Ond mae'r rhan fwyaf yn iawn, a cawsom risotto blasus heno.



Yr ardd boeth a bod yn Nain


Mae dyfrio’r ardd yn cymryd gymaint o amser ar y funud - bob diwrnod yn sych, heulog ac yn boeth.  Serch hynny, mae’r gardd wedi bod yn edrych yn dda iawn - ond rŵan, mae’r lawnt yn felyn a’r pridd fel rhywbeth yn yr anialwch.  Mae  llawer o’r llysiau wedi methu eleni fel y shibwns, y panas a’r sbigoglys  - er tan yn ddiweddar, mi wnes i drio roi digon o ddŵr iddyn nhw.  Ond mae’r ffrwythau fel y gwsberen wedi gwneud yn ddai iawn (er i’r dail cael eu fwyta i gyd gan  bryfed).



A mae’r ffa llydan yn barod - mi wnes i salad gyda iogwrt gyda nhw dydd Sul - a’r pys “Mangetout“ hefyd.  Felly dwi wedi treulio llawer o amser yn casglu ffa a gwsberen (rhai wedi eu fwyta a rhai yn y rhewgell), a dipyn o cwrans du a mafon (er bod y rhain ddim yn gwneud yn dda o gwbl yn y gwres).



Mae’r rhwystredig - dwi ddim yn y gwaith wythnos yma - ond dwi ond yn medru gweithio yn yr ardd yn gynnar yn y bore a gyda’r nos.  A mae dyfrio yn cymryd gymaint o amser.

Y newyddion arall ydy bod fy mab a fy merch yng nghyfraith  newydd cael eu babi gyntaf, Teigan.  Felly dwi’n nain newydd!  Dyma llun ohoni hi.



Mae’r swyddogaeth newydd yma wedi achosi i fi feddwl am fy nain i, a’r rhan chwaraeodd hi yn fy mhlentyndod.  Ro’n yn arfer mynd i aros gyda nain yn ei thŷ hi yn Ffrwdcaedu, rhwng Bontnewydd a Llanwnda.  Treulio amser yn yr ardd, ar fy meic ac yn mynd am dro gydai Nain.  Ond y peth pwysica, oedd mai Nain oedd yn gyfrifol, yn y bôn, am gwneud i fi siarad Gymraeg.  Dim bod hi’n gwrthod siarad Saesneg, doedd y peth ddim yn codi: cartref Cymraeg oedd ganddi hi, a roedden ni i gyd yn wybodol o hynny.  Wrth gwrs, pan oedd fy mam yna, a hi yn ddi-Gymraeg, siaradodd Nain Saesneg.
Felly, dwi’n edrych ymlaen am anturiaethau gyda Teigan yn y dyfodol.

Monday 1 July 2013

Darllen a garddio


Wnes i ddim lwyddo i flogio eto cyn diwedd mis Mehefin.  Parhau yn brysur a dyma ni ar ddechrau mis Gorffenaf.    

Wythnos diwethaf es i gyfarfod Clwb Darllen Llundain.   Y tro yma roedden yn trafod Un Nos Ola Leuad.  Heb y Clwb Darllen, dwi ddim yn meddwl faswn wedi gorffen y nofel.  R'on wedi ei ddechrau darllen hi mwy nag unwaith.  Ond y tro yma, llwyddais i orffen y llyfr.  Dwi ddim yn siwr sut i ddisgrifio'r profiad - byd gwahanol yn sicr; llyfr trist iawn mewn llefydd - ond dim mor ddu a roeddwn yn disgwyl.  Mae'r bachgen bach sydd yn dweud y stori yn annwyl iawn, ac yn ddiniwed, ymysg y helynt a'r digwyddiadau erchyll a trist sydd o'i gwmpas.  Ac yn sicr llyfr pwerus.  Buom yn trafod am dipyn am gysylltiad y llyfr a bywyd Caradog Pritchard.  Dywedodd yn glir nid hunangofiant oedd y llyfr.  Eto, mae gymaint o bethau sydd yn digwydd yn y llyfr wedi ei seilio ar ei fywyd o.  Ond yn y diwedd dwi'n meddwl ein bod ni'n cytuno bod rhaid i'r llyfr sefyll ar ben ei hun fel nofel - a gweithio i ddarllenwyr sydd ddim yn gwybod llawer am fywyd yr awdur.  Mae fy grwp darllen Saesneg am ddarllen a drafod y gyfieithiad - dwi ddim wedi darllen llawer ohono fo eto - mi fydd o'n ddiddorol gweld sut fath o brofiad bydd darllen y ferswin yna.

A rwan dwi wedi dechrau darllen Diawl y Wasg,  gan Geraint Evans - awdur Y Llwybr a Llafnau.

Yn sicr mae'n anodd cael yr amser i wneud y garddio sydd angen: a dydy pethau ddim wedibod yn hawdd eleni.  Mae popeth yn hwyr - dim mafon eto - fel arfer mae nhw'n dod ym mis Mehefin.  A popeth yn sych.  A'r llygod yn bwyta'r hadau cyn iddyn nhw dyfu - felly roedd rhaid ailddechrau y ffa dringo mewn potiau a symud y potiau i mewn i'r ty, lle, hyd at hyn (diolch byth) does na ddim llygod!



Ond, dan niw edi dechrau cael y mafon - dyma llun o'r rhai cyntaf: blasus iawn


A dyma llun o'r ty gwydr o'r "stydi"