Ailddysgu

Friday 2 March 2018

Dim Gwyl Ddewi Arall

Dim Gwyl Ddewi Arall I fi eleni……….
‘roeddwn wedi bwcio brecwast a gwely, a tren i Fangor ar gyfer penwythnos Cymraeg yng Nghaernarfon yn ymuno a’ Gwyl Ddewi Arall.  Ond gyda’r rhwyg mewn gwasanaethau oherwydd y tywydd mawr yn fama, a minna’n mynd ar y tren, yn y diwedd doedd o ddim yn edrych fel syniad da.  Felly dyma fi, yn teimlo’n eitha trist, oherwydd dwi ddim yn cael cyfle i dreulio benwythnos yn cyfagthrebu yn y Gymraeg yn aml.  Ond dyna fo.

Un peth dwi ddim wedi bod yn wneud ydy’r blog yma, felly cyfle i ddal i fyny dipyn.
Eleni, dwi wedi bod yn gwneud cwrs ffotograffiaeth ‘creadigol’.   Mae’r cwrs mewn canolfan  celf sydd yn eithaf agos.  Dwi ddim yn siwr os ydw i isio ddysgu cymryd lluniau ‘creadigol’.  Mi faswn yn hoffi medru cael lluniau well o anifeiliad ac adar – ond mae hynny’n anodd.  A dwi'n siwr fy mod i'n dysgu llawer wrth gwneud y cwrs.  Beth bynnag, prynais camera newydd ar ol Nadolig, a dwi wrthi’n dysgu sut i’w ddefnyddio, yn araf araf bach.  Felly, yn aml, dwi’n defnyddio’r hen camera ‘bridge’ i wneud gwaith cartref y cwrs.

Ia, dan ni’n cael gwaith cartref bob wythnos yn canolbwyntio ar brosiectau gwahanol.  Dyma un llun tynnais pan oeddem yn gnweud ‘low key’:



A dyma un arall ‘high key’.  


Dwi ddim mor siwr am hin.  Beth bynnag,  dwi ddim yn hoffi tynnu lluniau ty fewn- mae’n well gen i trio cael lluniau bywyd gwyllt, natur a tirlinoedd.

Mae digon o natur i'w gweld a chael yn ddigon agos i ni.  Dwi wedi bod yn gwylio llwynogod wrth mynd a'r ci am dro [ond o bellter] a'r tylluan wen hefyd [ond dim mewn golau digon dda i dynu llun] ac yn y warchodfa bythefnos yn ol, roeddwn yn gwylio llygoden bengron yn dod allan am dipyn o fwyd.....dydy o ddim yn lun dda.