Ailddysgu

Friday 29 January 2010

Llongddrylliad y "Royal Charter"

Dwi newydd orffen darllen y llyfr "Ofnadwy Nos", hanes (wir) am llongddrylliad y "Royal Charter" yn 1859. Cyn dechrau, ron i ddim yn gwybod bod hwn yn lyfr hanesyddol. Erbyn hyn dwi wedi darllen llawer o lyfrau T Llew - sydd mor dda am greu hanes diddorol sy'n tynnu chi i fewn. (Roedd cyfweliad ar S4C gyda T Llew dipyn o amser yn ol - rhaglen diddorol iawn a werth gwylio os gewch i gyfle - ac oedd o'n amlwg bod T Llew yn ymwybodol iawn o'r pwysicrwydd o greu stori dda). Cyn ddarllen "Ofnadwy Nos" darllenaid sawl lyfr T Llew - llyfrau plant i gyd - ond i gyd yn ardderchog i ddysgwyr (neu ailddysgwyr) Cymraeg - ac i fi, beth bynnag, hefyd yn cynnwys geiriau newydd. Hefyd, er ei fod ddim yn Gog, dwi'n medru dilyn y rhan mwya o'r iaith mae o'n defnyddio 0 dim gormod o dafodiaeth. Ond yn ol i "Ofnadwy Nos". Does gen i ddim diddordeb mawr mewn llongddrylliadau (mae o'n dipyn o lond ceg) a wyddwn i ddim am hanes y llongddrwylliad yma. Ond mae T Llew yn defnyddio ei ddawn i gyd a mae'r hanes mor dddiddorol - a wirioneddol - a trist, wrth sgwrs.

Collwyd tua 450 o fywydau yn y storm, er bu achub ryw 40, hefyd. Roedd lawer o bobol cyfoethus ynysg y teithiwr ar y llong, wedi gwneud ei pres yn Awstralia. Collwyd llawer o'r cyfoeth yma i'r mor ac ar ol y llongdrylliad datblygodd riw fath o frwydr rhwng y rheini a oedd eisiau'r trafferthion fynd i chwilio am cyrff y meirw, a rheini (yn cynnwys rhai o'r awdordudau) a oedd yn rhod mwy bwyslais at y deifio i trio cael gafael ar yr aur.

Llwyddodd Parch y Plwy lle ddigwyddodd y llongddrylliad i ddod a'r cyrff ( y rhai a darganfwyd) i'r eglwys "nes deuai annwyliaid a pherthnasau i'w hawlio". Yna r'oedd yr waith erchyll adnabod pwy oedd wedi marw, a'r mor wedi difrodi'r cyrff gymaint. Ond ydi fy Ngymraeg i ddim digon da i roi flas y llyfr i chi. Felly darllenwch - mae o mor dda.

Un peth olaf. Sut mae'r gramadeg yn gweithio gyda'r teitl hwn - "Ofnadwy nos"? Pam ydyw o ddim yn anghywir? Mater o bwyslaid efallai? (Ond ydi o ddim yn swnio'n iawn i fi!)

Yr eirlys cyntaf



Arwydd bod gwanwyn ar y ffordd? Mae’n annodd gweld, eto, bod y dyddiau yn ymestyn – ond dwi’n siwr eu bod, yn araf bach. Dwi’n meddwl na ym mis Chwefror gawn ni weld y wahaniaeth. Ond dwi wedi bod yn chwilio, o dro i dro, yn yr ardd, i weld be sy’n tyfu – a ddoe, dyna lle oedd o, wedio cuddio, braidd. A na, di’r llun ddim yn un dda – ond dyna’r eirlysiau cyntaf yn fy ardd i. Ac yn sgil gweld nhw - dwi am blannu hadau letys - sy'n tyfu reit dda hyd yn oed pan mae hi'm oer - ond fallai dylia i esbonio na yn y ty gwydr byddai'n plannu nhw! (Mae na wahanol eiriau Cymraeg am "snowdrops" ond eirlysiau ydyn nhw o gwmpas Caernarfon, beth bynnag).

Sunday 24 January 2010

Penwythnos

Dwi wedi cael penwythnos hyfryd: roedd rhaid gwneud dipyn fach o waith, a hefyd dipyn o siopa - ond heddiw dyn ni wedi bod yn cael cinio hefo ffrindiau da - ac yn sgwrsio dros bwyd ardderchog ac wedyn rownd tan anferthol. Roedd o'n teimlo'n glwyd a chyffyrddus. Ddoe cefais wybod bod yr ysgol Galan am fod ar diwedd mis Chwefror. Dwi'n meddwl bod hwn yr un Sadwrn a'r cwrs yn Llundain - felly mae angen penderfynnu pa un i ddewis - bydd mynd i Lundain am ddiwrnod yn llawer rhatach na mynd i Pontypwl - ond hefyd mae siarad am dau ddiwrnod yn llawer gwell nac am un! A dwi'n gwybod bod angen mwy o ymarfer siarad. Byddaf yn mynd i weld Gwilym bron bob wythnos ac yn cael sgwrs Cymraeg - ond aml iawn dwi'n ffeindio fy mod yn methu meddwl o'r gair Cymraeg dwi eisiau defnyddio - er fy mod yn gwybod y gair.

Oeddwn i yn aros yn Nottingham dros nos Fercher a dim yn ol tan hwyr nos Iau - felly collais yr ail raglen o Gwanas i Gbara - a hefyd Rownd a Rownd (dwi'n gwylio Rownd a Rownd yn gyson bob wythnos). Ac am fod y gliniadur dim yn gweithio yn iawn - a'r cyfrifiadur yma heb sain - doedd o ddim yn bosib ail wylio ar Clic, fel dwi'n gwneud fel arfer. Felly mae rhaid penderfynnu os dwi am aros i fynnu i weld Gbara heno - fel arfer dwi'mn mynd i'r gwel;y yn gynnar ar nos Sul hefo gwaith ar y dydd Llun.

Tuesday 19 January 2010

Gwanas i Gbara

Welsoch chi Gwanas i Gbara ar S4C? Hanes Bethan Gwanas yn mynd yn ol i Gbara - pentre fach fach yn Nigeria, lle bu hi'n gweithio fel athrawes am ddyflwydd yn 1984 yn dysgu Saesneg mewn ysgol y pentre. Darllenais y llyfr (Dyddiadur Gbara) dipyn o amser yn ol lle mae hi yn disgrifio bywyd bob dydd mewn lle anhysbell heb trydan neu ddwr - lle roedd teithio i'r dre nesaf (hyd yn oed y pentref nesaf) yn antur. Yn y rhaglen cyntaf mae Bethan yn cyfarfod a rhai o'r pobol a oeddent yn ei dosbarth hi a gweld be mae nhw'n gwneud rwan (dipyn fel "lle mae pawb", mewn ffordd)... Mae rhai o'r cyn-ddisgyblion wedi cael swyddi "mawr" a mae nhw i gyd yn cofio Bethan ac yn siarad am eid ddylanwad hi arnyn nhw ac ar yr ysgol. Er engraiff, hi oedd yn gyfrifol am cael llyfrgell yn yr ysgol. Tybed fyddai "VSO" yn gyrru ddwy ferch i rhywle mor anhysbell heddiw? Rhaglen diddorol - ac emosiynol. Mae'r ail raglen ar nos Iau - a dwi eisio ail-ddarllen y llyfr rwan!

Wednesday 13 January 2010

Yma o Hyd...

Roedd yr eira a ddisgynodd wythnos yn ol ar y ddaear o hyd, ddoe, er, erbyn gyda'r nos, roedd o mwy gynes a roedd yr eira a rhew yn toddi. Ond heddiw daeth mwy, er ei fod yn mwy gynes eto ac erbyn diwedd y pnawn, mae'r rhan mwyaf wedi toddi.

Fel ddwedais i, roeddwn i bron allan o lyfrau Cymraeg. Dyma be sgwenais i yn fy lyfr ddoe (dwi wedi dechrau sgwennu mewn llyfr cyn rhoi y cofnod ar y blog - ges i ddim cyfle i fynd at y blog ddoe). "Hefo'r cwrs y penwythnos diwedd dim yn rhedeg oherwydd yr eira felly doedd dim cyfle i brynu llyfrau newydd. Ond ta waeth - cyfle i ddarllen y llyfrau dwi wedi osgoi hyd a hyn. Yn llyfr y ddechreuais yw "Dyddiadur America a pethau eraill" gan Densil Morgan. Prynais hwy yng Nghaernarfon ym mis Tachwedd. Edrychodd yn ddiddorol, gwr Cymraeg a oedd yn aros yn America amser yr ymosodiadau ar y Tyrau Marchnad yn 2001. Ond cefais fy siomi. Athro yn ysgol diwinyddiaeth ac astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor ydi o. A felly mae rhan mawr o'r dyddiadur am bethau diwynyddol a chrefyddol. Does gen i ddim diddordeb yn y pwnciau hyn. Ond mae o hefyd yn son am ddiwidiant yr unol Daleithiau ac am hanes rhai o'r bobol Gymraeg ag aethynt yna. Fel mae'r clawdd yn deud "Er bod Densil Morgan yn hysbys fel llenor ac academydd o Gymro, fe'i ganed yn Ohio, ac yno, mewn teulu a oedd yn nodweddiadol o'r hen ddiaspara Cymraeg, y treuliodd ei flynyddoedd cynharaf"

Hyd a hyn, dwi wedi cyraedd tudalen 54 a dydi o ddim yn siwrna hawdd. Mae'r iaith brawdd yn ffurfiol ac yn lenyddol. Fel arfer, y dyddiau yma, dwi'n darllen heb geiriadur ac yn trio deall geiriau newydd o'r cyd-destun a hefyd cofnodi geiriau newydd wedyn. Ond mae gymaint o eiriau anadnabyddys (? "unkown") yn y llyfr yma, felly mab'n siwr dylwn ei weld o yn gyfle i ddysgu geiriau newydd.

Saturday 9 January 2010

Dim cwrs Cymraeg

Oeddwwn i'n fod ar cwrs penwythnos ym Mhontypwl heddiw - ond - oherwydd yr eira i gyd tydy'r cwrs ddim yn rhedeg. Trueni mawr. (Ar ol bwcio gwesty a prynu'r tocynnau tren...) Felly dwi'n gwylio S4c i drio cael dipyn o Gymraeg yn Lloegr. Mae Bro yn Portdinllaen wythnos yma - mae gen i cofion dda iawn o'r ardal. Roeddwn yn arfer mynd yna hefo fy ffrind pan oedd ei mam hi yn chwaera golff yna. Dwi'n cofio trio nofio yn y mor yn Ebrill. (Dim syniad da!...) a hefyd gweld morloi .
Baswn yn hoffi mynd yn ol i wneud dipyn o gerdded yna.

Ah, mae Bro ar y teledu eto - a tro yma yn Nhrenewydd, lle, yn ol bob son mae Iolo Williams yn byw (neu lle yr oedd o yn buw unwaith, mae'n siwr) Dwi erioed wedi bod yna.

Labels: ,

Saturday 2 January 2010

Allan o lyfrau

Dwi wedi gorffen darllen fy llyfrau Cymraeg i gyd! (Wel, y rhai dwi eisiau darllen!) Prynais sawl lyfr pan oeddwn yng Nghaernarfon yn yr Hydref ond dwi wedi gorffen nhw i gyd rwan. Yn ddiweddar dwi wedi gorffen darllen Fy Mhobol I - hunangofiant T Llew jones - ond mae o'n hunangofiant anarferol - mwy, (cliw yn y teitl) am y pobl eraill yn ei fywed. Ond yn ddiddorol er hynny. R oedd ganddo fo digon o enni, beth bynnag. Gweithio fel athro a prifathro, ysgrifenny llyfrau ac enill gwobrau yn esteddfordau - oh, a hefyd chwarae gwyllbwyll, ond ydi o ddim yn son am hynny.

Ond mae rhaid dweud fy mod i yn ffeindio rhanau o'r llyfr reit annodd. Y llyfr arall dwi wedi darllen yn ddiweddar ydi un gan Daniel Owen - Rhys Lewis. Oeddwn i ddim yn siwr amdani i ddechrau. Ond unwaith oeddwn i heibio y dechrau, nes i fwynhau'r llyfr - a hefyd mae'n rhoi llun i ni o fywyd yn yr amser honno.

Dwi wedi dechrau ail ddarllen llyfr Bethan Gwannas - Y Gwledydd Bychain