Ailddysgu

Tuesday 27 September 2022

Sgwarnogod a cornchwiglod

 Sgwarnogod a cornchwiglod

 

Ychydig o flynyddoedd yn ol roeddwn yn gweld sgwarnogod yn yr ardal yma yn eitha aml, ond dim bellach.  Efalla bydd rhaid mynd yn ol i’r llefydd dwi wedi eu gweld o’r blaen a chwilio eto.  Ond doedd dim rhaid chwilio dydd Sul a bore Llun.  Roeddwn yn treilio’r nos Sul yn Elmley, gwarchodfa natur ar ynys Sheppey, a wedi gwirioni gyda’r lle.  Cefais ond dipyn dros diwrnod yna: cyrraedd ar fore dydd Sul a gadael ar ol cinio dydd Llun, ond mae gymaint i’w weld yna.

 

Roedd y dydd Sul yn heulog ac wrth cerdded i lawr llwybr heibio gwersyllfa bach (lle dach chi’n medru aros) roedd y coed yn llawn o aeron a hefyd yn llawn o weision y neidr.  


Gwych!  Ond dwi am ffocysu ar ond ychydig o rywogaethau.  Un ydy’r sgwarnog.  Dwi ddim yn siwr os dwi’n hoff o’r llun yma gyda’r clustiau yn mynd i wahanol gyfeiriadau, ond doedd dim digon o amser i gael fy nghamera allan i gael y llun gorau: sgwarnog yn rhedeg i fyny’r lôn yn syth ataf.  



Maent allan llawer mwy yn y nos, a gwelais ychydig ohonynt hefyd yn y bore gynnar, dipyn ar ol saith o’r gloch, bore Llun.  Yn ystod y dydd mae nhw’n swatio i lawr.  Yn bendant byddaf yn chwilio amdanynt yn lleol o hyn ymlaen.

 

Aderyn arall dwi ddim wedi gweld llawer yn fama yn ddiweddar ydy’r tylluan wen.  Annifail arall eiconig, ’swn i’n dweud.  Roedd yn rhy hwyr i gael llun da gyda’r golau yn mynd, ond braf gweld hi’n hela - a cudyll coch yn brysur trio dwyn be oedd hi wedi dal!


 

A’r cornchwiglod!  Mae cornchwiglod wedi dod yn brin dros y blynyddoedd.  Ond roeddwn i yn medru gweld un yn yr ardd lle roedden yn aros, a roedd heidiau yn hedfan.  Cawson gwybod eu bod wedi cael tymor llwyddianus iawn.




 A’r uchafbwynt olaf oedd gweld tylluan clustiog hir - ond wedi dweud hynny r’oedd yn anodd iawn i’w weld yn dda - roedd yn cuddio, yn y dydd, tu ol i dyfiant.

Tuesday 6 September 2022

Dechrau mis Medi yn yr ardd

O, dwi’n casau tecnoleg weithiau.  O’n am gynnwys lluniau o’r ardd sydd ar fy iphone - ond dydy’r teclennau ddim am gysylltu â’u gilydd heddiw, ond ta waeth.  Felly bydd y lluniau blodau ddim yn adlewyrchu eleni (er eu bod o'r add!)

 

Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd yn ddiweddar, ac ers i ni cael dipyn o law o’r diwedd mae rhan o’r ardd yn edrych yn eitha dda.  Mae’r haf yma fel petai wedi bod yn ddarn o ymchwil anffurfiol.  Be sydd yn medru goroesi sychder a tymherau uchel a be sydd ddim?

 

Yn gynnar yn y tymor methais gyda’r blodau unflwydd.  Fel arfer dwi’n tyfu rudbeckia a comsos



a mae’r rhain yn gwneud mor dda ac yn para tan ddaw’r rhew.  Ond eleni, ches i ddim lwyddiant gyda’r rudbeckias a wnaeth y cosmos tyfu’n iawn ond gwrthod blodeuo.  


Ond mi faswn yn dweud mae ser y sychder ydy’r salvias.  Y rhai gyda dail eitha bach sydd yn goroesi ein gaeafau ni yn hawdd.  Does ganddyn nhw ddim blodau coegwych; maent yn ddistaw, fel petai.  



Ond mae’r gwennyn a throchfilod eraill yn hoff iawn ohonyn nhw - a maent wedi goroesi heb cael ei ddyfrio o gwbl. A sedum wrth gwrs; a mae nhw yn edrych yn wych wrth iddynt flodeuo rŵan, a dwi wedi tri tyfu planhigion newydd o cuttings felly gawn gweld.

 



Mae’r echinops hefyd wedi goroesi’n dda a hefyd y lafant a’r rhosmari.  



Dwi wedi gorfod dyfrio yn yr ardd llysiau, a’r potiau hefyd wrth gwrs.  Ond o’r llysiau, mae moron wedi gwneud yn dda eleni, roedd y mafon yn iawn (gyda dyfrio hael), a dan ni ond yn dod i ben gyda’r ffa Ffrengig rŵan.  

 

Es i feithrinfa newydd wythnos diwethaf.  Un ardderchog: trueni ei fod o leia hanner awr i ffwrdd.  Prynais dau salvia newydd.  Falle gwnân goroesi’r gaeaf a falle ddim felly dwi wedi cymryd cuttings yn barod.

 

Y peth arall dwi wedi gwneud ydy rhoi llwer o gompost ar y gwlau a wedyn digon o mulch  ar wyneb y ddaear a gobeithio bydd hynny’n helpu’r planhigion os daw tywydd sych sych eto.