Ailddysgu

Saturday 27 August 2016

Cynhaeaf Awst


Dydy’r tymor ddim wedi bod yn dda o ran lysiau eleni.  Ar ôl y gaeaf gwlyb, roedd gymaint o falwod a gwlithod - ac oherwydd hynny, ces i ddim lwyddiant o gwbl gyda courgettes, ac ond dwy res o ffa Ffrenging.  Wedyn doedd dim llwyddiant gydab betys, a dim panas ac ar ol haf sych a phoeth yn aml, dwi wedi gadael y tatws am dipyn.  Mae’r mafon wedi llwyddo i ryw raddau - ond fel arfer ar ddiwedd Awst bydd y mafon Hydref yn gweud yn dda - ond mae hi wedi bod rhy sych hyd at hyn.  A’r mefus wedi bod yn sal ofnadwy.
Ond yn y tŷ gwydr mae’r tomatos, ciwcymbyr, courgettes, pupurau a basil yn dod ymlaen yn dda.



Gyda dwy flanhigyn, fel arfer, mae ’na ormod o giwcymbyr i ni, a mae rhai yn mynd i’r siop lysiau lleol.

Roedd y basil yn araf yn dod, ond mae na ddigon i wneud pesto, efallai dros y benwythnos.  A dwi newydd prynu planhigino o’r archfarchnad - “living basil“: mae nhw yn dod ymlaen yn dda, a falle bydd digon o fasil hwyr.  Rŵan, yn sicr, ydy’r amser i hau salad ar gyfer y gaeaf, ond mae hi wedi bod rhy poeth a sych.  Er hynny, dwi am roi cynnig arall ar hadau fel pak choi sydd yn gwneud salad da yn y gaeaf.

Un path sydd weed ffynu yay'r llyffantod!  Mae'r add yn llawn ohonnyn nhw a hefyd mae dwy neu dri yn byw yn y tŷ gwydr!   Dyma un o drigolion y tŷ gwydr: ar ben y wal bach....


Wednesday 17 August 2016

Sych a phoeth


Ar ol bod ar ein gwyliau wythnos diwethaf, dan ni wedi dod yn ôl i sychder yn yr ardd, a’r haul yn tywynnu.  A gan bod ffrind wedi bod yn dyfrio yn y tŷ gwydr - llwyth o giwcymber.

Mae ’na ddeuddeg yn y fasged, ar ei ffordd i’r siop lysiau, lle maent yn cael ei ffeirio am llysiau nad oes gennym yn yr ardd - neu ffrwythau fel bananas.

Mae’r eirin ar y coeden Czar yn barod hefyd.  Mae’r rhain i fod yn eirin ar gyfer coginio, ond maent yn ddigon felys.

Y gwaith fwyaf gyda’r tywydd sych, poeth ydy dyfrio.  Mae rhaid rhoi dipyn o ddwr bob dydd yn y pwll bach yn yr ardd, ac er nad ydym yn dyfrio’r lawnt na’r blodau yn aml, mae rhaid dyfrio’r planhigion mewn potiau, a’r ffa Ffrengig a’r cenin - a Paul os wyt ti’n darllen mae’n ddrwg gen i os ydy o’r dal i fwrw ym Mlaenau Ffestiniog.....

Aethom i Alnmouth yn Northumberland a roedd yn hyfryd.  Braf cael bod mewn lle lle mae nifer o adar wahanol i'w gweld, fel y gylfinir, sydd yn brin iawn yn fama.  A braf clywed son y gylfinir - yn fy atgoffa i o Gymru...


Monday 1 August 2016

Y barcutiaid lleol


O’r diwedd, dwi’n cyfranu at y flog yma.  Heb gwneud am dipyn.  Ac unwaith eto mae’r tecnoleg yn fy erbyn i.  Unwaith, roedd y lluniau ar yr iphone yn cael eu rhoi i’r cyfrifiadur unwaith wedi i’r ddau cael cysylltiad, ond rŵan dydy o ddim yn digwydd fel yna bob tro.  Ac yn sicr dim  heddiw, am ryw reswm.

Beth bynnag.  Dwi ddim yn yr Eisteddfod a dim yn medru mynd eleni.  Blwyddyn nesaf, gobeithio.  Dwi wedi bod yn gwylio’r barcutiaid lleol yn ddiweddar.   Mae un neu ddau i’w gweld o gwmpas y dref yma, a weithiau yn hedfan uwchben y comin,  lle byddaf yn mynd a’r ci am dro.

Wythnos yn ôl, cafodd y gwair ei dorri. 
 

Mae’r gwair yn cael ei adael i dyfu drwy’r rhan fwyaf o’r haf, a mae hynny’n beth dda - yn denu adar i hela a nythu, a ieir bach yr haf (ond dim llwyddiant gyda tynnu llynau o’r rheina).  


A tuag at ddiwedd mis Gorffenaf, mae’r gwair yn cael ei dorri.  Ac ar ol hynny, roedd y barcutiaid ym mhobman - wel dyna sut oedd o’n teimlo.  Pump ohonyn nhw.  Yn amlwg roedd o’n llawer haws cael gafael ar y llygod bengron.

Mae’n rhyfedd meddwl bod y barcud mor brin ddeugain mlynedd yn ôl, ac yn sicr yn aderyn Cymreig.  Ond ryw bum mlynedd yn ôl (os dwi’n cofio’n iawn) roedden yn gweld y barcutiaid gyntaf yn yr ardal yma.  Roeddent wedi eu sefydlu o gwmpas y Chilterns - dim mor bell i ffwrdd, a hefyd roedd rhai ryw bump ar hugain milltir i’r gogledd, a roedden ni’n dechrau gweld ambell i un yn fama.  Erbyn heddiw, dan ni’n gweld un neu dda yn eithaf aml.  Ond dwi erioed wedi gweld pump gyda’i gilydd o’r blaen.  A mae nhw’n adar hardd iawn.

Ond dwi ddim wedi cael llun da eto - a gyda’r gwair wedi ei gasglu rŵan, does dim gymaint o farcutiaid o gwmpas.  Duma beth sydd gen i.


Felly, bydd angen amynedd, amser a’r golau iawn!