Cawsom ddechrau da i’r mis. Dwi wedi bod yn casglu mwyarduon, sydd yn ardderchog eleni,
ac yn mwynhau tynnu llyniau ben bore i lawr ar y comin. Dyma llun tynnais bore Gwener, gyda’r tarth ar y comin, a’r haul yn dechrau dod
- a dyma llun pum munud yn hwyrach gyda’r haul yn dechrau codi go iawn. Gwych.
Yn ôl yn yr ardd, mi wnes i dipyn o dacluso p’nawn ’ma. Mae rhai rhannau o’r ardd yn eitha flêr,
ac yn aml, dydy tacluso ddim yn flaenoriaeth, yn enwedig yr adeg yma o’r blwyddyn pan mae ’na gymaint o waith yn yr ardd llysiau, yn casglu ffrwythau a’r courgettes di-ri, a’r ffa....a hefyd casglu be sydd yn tyfu yn y tŷ gydr. [Mi wnes pesto wythnos diwethaf a dros y penwythnos, sydd yn mynd i’r rhewgell]. Ond heddiw penderfynnais bod rhaid gwneud dipyn o dacluso. Ond mae’n bwysig cael cydbwysedd. Yn aml, pan dwi’n symud ryw botyn sydd wedi cael ei adael braidd yn flêr, dwi’n darganfod llyffant yn llechu - ac yn bendant dwi eisio sicrhau bod yr ardd yn lle dda i fywyd gwyllt. Dyma pwy oedd tŷ ol i un botyn:
Wrth weld faint o lyffantod sydd o gwmpas dwi’n meddwl fy mod i wedi llwyddo o ran llyffantod, beth bynnag. Ond dwi’n meddwl bydd rhaid i fi symud mwy o’r forget-me-nots yma sydd yn tyfu ym mhob man.
[Dwi ddim yn siwr beth ydy’r enw gorau Cymraeg? Mae’r geiriadur yn awgrymu "glas y gors" neu "n'ad fi'n angof"] a wedyn bydd yn haws gweld y cyclamen hawdd. Mae’r eirin yn gwneud yn dda eleni, yn ogystal a’r afalau, er bod rhai ohonynt wedi pydru ar y goeden. Ych a fi!
Serch hynny, mae ’na ddigonedd i fwyta, a cryn llwyddiant gyda’r aubergines hefyd.