Ailddysgu

Tuesday 22 March 2011

Yn ol yn yr ardd




Dwi ddim wedi cael llawer o siawns i gyfrannu i’r blog yn ddiweddar. Dwi wedi bod yn brysur yn y gwaith; es i’r ysgol undydd yn y Ganolfan Cymraeg a hefyd dwi wedi bod yn trio dechrau ar be sydd eisiau gwneud yn yr ardd – ac yn y ty gwydr. Mi fyddaf yn tyfu pupurau melys hir (?) bob blwyddyn. (Does dim cyfieithiad am “sweet peppers” yn fy ngeiriadur, felly os oes cyfieithiad cywir, deudwch!) Mae’r math yn y llun yn dod o’r Eidal – Corno Rosso ydy ei henw nhw, a mae nhw’n wych, yn enwedig wedi ei rhostio yn y ffwrn. Yr unig peth ydi eu bod nhw yn cymryd amser hir i dyfu – felly ddylwn i ddechrau yn gynnar – ym mis Chwefror, fel engraifft - neu fyddan nhw ddim yn barod nes mis Hydref neu Tachwedd. Ond, pan mae o’n lwyd ac yn oer, does gen i ddim gymhelliant i fynd allan I’r ty gwydr! Ond rŵan ei fod yn gynhesach, mae o’n bendant yn amser plannu hadau.

Dros y penwythnos diweddaf, a heddiw, dwi wedi body yn brysur yn y tŷ gwydr. Mae gennyn ni dŷ gwydr enfawr, hen, hefo digon o le i dyfu bob fath o salad. Felly dwi wedi dechrau hefo letys a planhigion salad arall. Yn yr ardd ei hun, mae na cennin o hyd a hefyd rhiwbob yn barad rwan – a garlleg sydd wedi ei cadw ers y hâf.

Thursday 10 March 2011

Perllan newydd


Dwi wedi sôn ar fy mlog am y perllan angyfreithlon - a rŵan dyn ni wedi dechrau perllan (bach, bach) newydd. Stori hir, ond mae gennyn ni (myfi, fy ngŵr a dau ffrindiau) acyr o dir ryw milltir i ffwrdd. Mae o braidd yn wyllt ar y funud ond dyn ni newydd osod bedwar coeden newydd yna. Dau goeden afal a dau goeden gellygen. Felly edrych ymlaen i’r ffrwythau i ddod. (Mae'r llun yn dangos fy mab hefo yn o'r coed)

Hefyd, dwi newydd orffen darllen Gwen Tomos, gan Daniel Owen. Doedd o ddim rhy hawdd – ac yn cynnwys geiriau nad oeddwn yn nabod – hen geiriau, sydd ddim yn cael ei defnyddio heddiw, dwi’n meddwl. Nes i fi chwilio am fanylion y llyfr, doeddwn i ddim wedi sylwyddoli ei fod yn llyfr mor gynnar – dwi ddim wedi darllen llyfr o’r cyfnod yma o’r blaen.

Labels: , ,