Ailddysgu

Saturday 23 March 2024

Y titw tomos las yn nythu

 Mae’r tywydd ansefydlog yn parhau.  Weithiau, haul a tywydd cynnes, a wedyn, mewn chwinciad, cawod eitha trwm.  Dwi wedi bod yn cadw lygad ar goeden fedwen lle fu titw tomos las yn nythu llynedd.  Welais mo’r nyth tan mis Mai - a dyma llun o’r aderyn yn gwneud ryw waith cartref, yn clirio’r nyth allan.  




Y cwestiwn oedd a fyddai’r aderyn yn dod yn ol i nythu yn yr un lle eleni?  Gwn fod adar yn defnyddio’r un blwch o flwyddyn i flwyddyn, ond mewn twll yn y fedwen mae’r nyth yma.  Felly tybed?


Cefais yr ateb yn gynharach yn y mis pan welais aderyn yn mynd i fewn ac allan o’r twll. Ond dydy o ddim yn llun da, yn anffodus.



A bore ’ma gyda’r tywydd mor oer (ar ol dydd cynnes ddoe) doedd dim arwydd o’r adar o gwbl.  Falle eu bod yn swatio'n gynnes yn y goeden.  Gobeithio byddan nhw yn llwyddo.

Tuesday 5 March 2024

Gŵyl Ddewi Arall 2024 rhan 1

Mawrth 1af 2024
“Gŵyl Ddewi Arall.  15.25.  Amser i gael hoe a phanad yn Llety Arall lle dwi’n aros am y benwythnos yn ystod yr ŵyl eleni.  Wedi cyrraedd Caernarfon es i’r siop elysen a phrynais dau lyfr (ond yn hwyrach penderfynnais adael nhw yn Llety Arall).  Wedyn cinio yng Nghaffi Maes - gyda salad ardderchog.  Lle braf i wylio'r mynd a dod ar y maes.  Ers i fy lefel gliwcos dangos ei fod yn medru mynd yn uchel ac yn speicio, dwi trio bod yn ofalus iawn gyda be dwi’n bwyta“ osgoi gormod o carbs (anodd) a bwyta digon o lysiau a ffrwythau a hadau (tipyn yn haws oherwydd dwi’n gwneud llawer o hwnna’n barod).  A gwylio rhan o’r orymdaith Gŵyl Ddewi

a cael sgwrs glên â’r dyn a’i ŵyr sydd ar y bwrdd nesa ac yn dod o Beaumaris.  Taith bach o gwmpas ”pethau bychain“: arddangosfa; a wedyn i’r Anglesey, a chyfarfod a Mosh, ci defaid Kelpey o Awstralia.  Ci cyfeillgar iawn.  I Balas Print wedyn lle brynais dau lyfr: Llygad Dieithryn (hen ei agor eto) ac Amser Drwg fel Heddiw (Iwan Meical Jones),  Cael paned a gwylio’r gwylanod ac eirau ar y mynyddoedd.  Wedi tynnu ambell lun.  Dechrau da i’r penwythnos.”

Erbyn hwyrach yn y prynhawn roedd y glaw wedi cilio yn gwbl gyfan (am y tro) a cerddais wrth waliau’r dref yn edrych allan ar Ynys Môn.  Golau gwych, Dyma lun o bysgotwyr.