Ailddysgu

Sunday 19 December 2010

Eira



Wel dim eira man gawsom ni yma - ond eto mae o'n mwy ddwfn na dwi yn cofio cael am flynyddoedd. R'oedd ddau barti yma pnawn a heno, ond roeddwn i ddim yn hapus yn gyrru gyda'r eira a'r rhew. Felly aros i mewn a cadw'n gynnes a darllen y papurau newydd dydd Sul a hefyd dipyn bach o ddarllen fy llyfr newydd Gymraeg. (I ddweud y gwir, dydi o ddim yn newydd (,dwi'n ddarllen Bitsh ar y funud) ond mae o'n newydd i fi!
A mae'r lluniau yn dangos ein tre ni yn yr eira.

Carolau Gobaith

Dwi wedi bod yn gwylio Carolau Gobaith – ac yn mwynhau o’n arw. Ond mae o yn gwneud i chi feddwl sut brofiad ydi o i ganu o flaen gynulleidfa. Dwi’n hoffi canu, ond dim wedi canu o flaen gynulleidfa ar wahân i eisteddfod dwp ysgol hâf yn y Fenni a hefyd mewn parti Nadolig hefo grwp bach yn y gwaith. Ac wrth sgwrs blynyddoedd yn ol, roedden ni i gyd yn canu mewn eisteddfodau Ysgol Sul – a dwi yn cofio o leiau un achlysur pan oeddwn i ddim yn medru dechrau ar y cân – mewn deuawd. Dych chi’n cofio Max Boyce (ia blynyddoedd yn ol), yn son am adrodd “Y Wiwer” – ac yn agor ei geg a dim byd yn dod allan? Wel dyna be wnes i hefyd. A mae o’n anodd cael hyder yn ol wedyn.

Wednesday 8 December 2010

Oer, oer, oer



Echddoe es i'r gwaith ar y beic, ar ol cymryd y bws tra'r oedd yr eira o gwmpas. Ond nes i ddyfaru. Er bod y rhan mwya o'r eira wedi mynd; r'oedd ardaloedd yn rhewllyd fel y llwybyr ger y llun. Ac roedd rhaid cerdded yn rhai lefydd. Felly ddoe a heddiw r’oeddwn yn ol ar y bws. Roedd hi'n ofnadwy o oer ddoe - fel gwelir yn y llun o’r barrug ar y coeden yng nghalon y lawnt yn y gwaith. Ond hefyd yn hardd iawn. Heddiw yr oedd dipyn cynhesach.
Dwi wedi trefnu mynd ar cwrs Cymraeg ym Mangor yn y blwyddyn newydd - felly gobeithio bydd y tywydd ddim yn rhwystro fi!