Ailddysgu

Monday 31 December 2012

Diwedd y Flwyddyn

Dan ni ddim am fynd allan heno - a falle ddim am aros am ganol nos chwaith!  Dwi ddim yn hoff iawn o ddathlu'r Blwyddyn Newydd - a dwi ddim yn hoff o aros i fynny yn hwyr.  Felly ffilm ar y teledu a lasiad o win, a dyna fo.

Ond meddyliais bod o'n hen bryd i fi newid  y rhestr o lyfrau ar y blog - sydd braidd yn hen erbyn hyn. Ond, gan fy mod i ddim wedi cadw'r rhestr i fynny dwi wedi anghofio llawer o'r llyfrau dwi wedi darllen yn ystod y flwyddyn, felly dwi am trio cadw well trefn yn 2013!  A pan dwi'n cofio rhai o'r llyfrau eraill, wnai ychwanegu nhw.

Ond dros y Nadolig dwi wedi bod yn darllen dau lyfr Cymraeg:  Cyw Melyn y Fall, gan Gwen Parrott, a Hanas Gwanas - gan Bethan Gwanas wrth gwrs.  Dwi wedi mwynhau llyfrau Gwen Parrott o'r blaen a wedi darllen y llyfr gyntaf am Dela Arthur.  Roedd y llyfr hwn ddim mor hawdd i ddarllen (i fi, beth bynnag).  Un rewm ydy'r tafodiaeth (Sir Benfro?) ond heblaw am hynny, roedd yr hanes ddim mor hawdd i ddilyn chwaith, er bod hi'n ysgrifennwraig da iawn.  Mi orffenais y llyfr, ac roedd o'n cydio ynddo fi ond, nes i ddim mwynhau o gymaint a'r llyfrau eraill gan Gwen Parrott.

Roedd o'n anodd rhoid Hanas Gwanas i lawr hefyd - a darllenais o dros ryw ddwy neu dair ddiwrnod.  Ond dwi'n siwr byddai'n mynd yn ol ac aildarllen y llyfr.  Llyfr diddorol am fywyd diddorol.  Sut mae Bethan wedi llwyddo i wneud gymaint, tybed?

Dydd Mercher dwi'n mynd i aros yng Nghaernarfon a mi fyddai yn mynd i'r cwrs Galan eto.  Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ymarfer a falle gwella fy Nghymraeg - ac i chwilio am ychydig o lyfrau newydd (neu ail-law)

Blwyddyn Newydd Dda!


Friday 28 December 2012

Ailgylchu coed a bwyd Nadolig o’r ardd


Dan ni wedi colli tair coeden yn ddiweddar. Ar ddechrau’r blwyddyn hon, yn sgil y gwyntoedd cryfion, syrthiodd pren ceirios yn yr ardd ffrynt pan oeddwn ni i ffwrdd ym Mangor ar y cwrs Galan.  Cyn hynny roedd llarwydden wedi marw yn y cefn, ac am rhyw reswm, bu farw coeden bedw yn y cefn yn y Gwanwyn.  Mae’n trist colli coed, ond mae nhw i gyd yn cadw ni yn gynnes rwan ar y stöf llosgi pren (wood burning stove? - oes geriau gwell?)




Dwi wedi mwynhau bod ar fy ngwyliau o’r gwaith dros y Dolig, ond mae o wedi bod yn amser brysur hefyd, gyda’r teulu yma ar diwrnod Nadolig - a ffrind a ddaeth i aros diwrnod San Steffan.  Er bod na ddim llawer o gynnyrch ar gael o’r ardd, (neu’r tŷ gwydr) rŵan, dan ni wedi gwneud yn eitha da, gyda defnyddio’r rhewgell hefyd.  Dyma’r olaf o’r pupurau coch.  Am arbrofiad, gadwais y blanhigyn i weld os fydd y ffrwyth ola yn troi’n goch - ac o’r diwedd dyna beth wnaeth o (gwelir islaw).  A ddefnyddiais y pupurau mewn quiche gyda caws cryf Eryri.  Blasus iawn.




Roedd jyst digon  o ddail yn y ty gwydr i gael salad I fynd gyda’r quiche. A mae na ddigon o mafon hefyd – ag wrth gwagu rwyfaint ar y rhewgell, sylwais bod na ddipyn o eirin ar ol – sy’n gwych, achos dwi’n hoff iawn ohonnyn nhw a roeddwn yn meddwl bod nhw I gyd wedi gorffen.

Heno, ddefnyddiais cennin o’r ardd i fynd i pei efo beth oedd ar ol o’r twrci, a mae’r “nut roast“ a wnes i ar gyfer dydd San Steffan yn cynnwys cnau’r colleen yn y gardd gerila.  Ond rŵan dwi wedi laru braidd ar goginio am dipyn.  Mae Helen fy ffrind wedi gadael, a dwi am ymlacio dipyn – darllen a gwylio teledu – a wedyn dal i fynny efo ychydig o waith yn y tŷ.

Monday 24 December 2012

Noswyl Nadolig


Doedd dim pleser bod allan gyda’r ci heddiw.  Pobman yn lyb ofnadwy – ond dan ni’n lwcus bod na ddim llifogydd sy’n bygwth tai fan hyn, er bod llawer o’r comin o dan dwr.  A dyma ni ar Noswyl Nadolig, a dwi wedi treulio’r pnawn yn paratoi bwyd .  Mae rhai pobl yn drefnus iawn, ac os bosib dwi yn gwneud pethau o flaen llaw – one mae o wedi bod yn amser brysur iawn, a dwi ddim mor drefnus a hynny!  Felly, er bod un pryd o fwyd wedi ei baratoi ac yn y rhewgell, a saws wedi ei gwneud gyda’r  cranberries,  roeddwn eisio gwneud treifl gyda’r mafon o’r rhewgell, jeli cwrans coch, sausage rolls, a mins peis.  Ond mae popeth yn cymryd mwy o amswer na dwi’n disgwyl.  Ond erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf wedi ei gwneud.  A dwi’n cael hoe bach cyn mynd ati i wneud y mins peis.

Felly mae rhai o’r ffrwythau o’r ardd wedi cael ei ddefnyddio: yn y jeli cwrans coch, neu yn y treifl new mewn saws.  Roedd y jeli’n cymryd mwy o amswer nag oedden i’n gobeithio – ond mae o’n edrych a blasu yn dda.






Ac unwaith dwi wedi gorffen coginio, dwi’n edrych ymlaen at bwyta’r bwyd yfory, ymlacio, a darllen fy llyfrau newydd dros y dyddiau nesaf.  Mwy am hynny mewn blog dyfodol, efallai, yn y cyfamser – Nadolig Llawen.

Sunday 16 December 2012

Teithio i Rufain ar y tren


Hmm.  Dwi'n sgwennu hwn ar y tren o Rufain i Munich.  Y tren dros nos, sydd yn cysylltu a tren arall yn Munich i Frankhfurt.  Wedyn tren o Frankfurt i Brussels - ac adref ar Eurowtar.  Ond dydy'r tren ddim am gysylltu, oherwydd mae o 30 funud yn hwyr.  Felly bydd rhaid cael tren arall, ac efallai tocyn newydd, set newydd a Eurostar newydd, a.y.y.b.  Medra i ddim dweud bod y profiad o fynd ar y tren wedi bod yn esmwyth iawn.  Dwi'n hoffi defnyddio tren, mae o'n fwy wyrdd na hedfan a dwi ddim yn hoffi hedfan, (na bod yn y maes awyr) felly penderfynnais mynd i Rufain ( ar gyfer cyfarfod) ar y tren.  Digon o amser i wneud tamaid o waith roedd angen gwneud, paratoi ar gyfer y cyfarfod, a gwneud fy ngwaith Cymraeg Maestroli.  Ond mae o wedi bod yn daith rwystredig.  Ar y ffordd, roedd y tren i Munich mor hwyr fel fy mod i'n colli'r tren dros nos.  Felly roedd rhaid aros yn Munich a mynd yn y bore.  A Munich gyda digon o eira o gwmpas.

Ond roedd hynny'n golygu mynd trwy'r mynyddoedd  yng golau'r dydd.  Ac er fy mod yn cyraedd llawer hwyrach nac oeddwn wedi cynllunio, roedd y dirlun yn hardd ofnadwy, (fel gwelwir.), ac yn ogystal a gweithio, roeddwn yn treulio digon o amswer yn edrych ty allan ar yr eira, y coed, a'r mynysdoedd.






Wedyn, mewn cyfarfod am y ran fwyaf o ddau diwrnod, ac ond ryw ddwy awr i grwydro o gwmpas dipyn cyn dal y tren yn ol.  Ond unwaith o'r blaen dwi wedi ymweld a Rufain, blynyddoedd maith  yn ol (roedden ar daith beic ar y pryd) a roeddwn wedi gwirioni efo'r ddinas.  Mi faswn wedi hoffi cael mwy o amser y tro yma hefyd, ond doedd o ddim yn bosib.  Ond hyd yn oed yn agros i'r gorsedd Termini, mae 'na ddigon o bethau diddorol a hyd yn oed anhygoel i'w gweld.

Dwi wedi dysgu Eidaleg.  Dwi ddim yn rhugl,  o bell ffordd, ond roeddwn yn medru cael sgwrs, darllen  yr iaith yn weddol a.y.y.b.  Ond profiad siomedig iawn oedd trio cofio a defnyddio'r iaith ar ol blynyddoedd maith (dros ugain). (Ac wrth gwrs, yn dangos beth sy'n digwydd os dach chi ddim yn defnyddio'r iaith...)  Felly falla ddylwn fynd ati i ailddysgu?   Peth diddorol arall  a rhwystredig hefyd ydy bod rhywle lle nad ydych yn siarad yr iaith o gwbl, fel (i fi) yn yr Almaen.  Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod sut i ddweud 'mae'n ddrwg gen i ond dwi ddim y n siarad Almaeneg"  Mi faswn wedi ymdopi yn iawn gyda Ffrangeg yn y wlad Belg, ond roedd rhaid aros dros nos yn Munich a roeddwn  yn ddiolchgar iawn bod pob plemtyn yn dysgu Saesneg yn yr ysgol yn yr Almaen, a mae'r rhan fwyaf yn dda iawn.

Er bod y teithio yn ddiddorol; fel arfer, dwi'n falch o bod adref rwan ond yn sicr mae o wedi gwneud i fi feddwl am y profiad o dysgu iaith pan dach chi'n ddechreuwyr llwyr.

Saturday 1 December 2012

Gwobr blog garddio, chwilota a pupurau


Mae’r Guardian wedi ennill gwobr  am ei flog garddio.  Dwi’n meddwl ei fod yn flog  ardderchog.  Mae Jane Perrone, golygydd garddio y Guardian hefyd yn gwneud blog personol   sy’n dda iawn hefyd.  Es am gweithdy “foraging”   gyda Jane  llynedd (‘roedd rhaid i fi edrych – r’on yn meddwl mai efallai eleni roedd o!).  Dwi ddim yn siwr be ydy “foraging” yn Gymraeg – mae un geiriadur yn awgrymu “chwilota”.  Dwi ddim wedi bod yn chwilota yn ddiweddar ond heddiw, wrth cerdded dros bont yng nghanol Milton Keynes, mi welais ffigysbren mawr iawn.  Yr amser yma o’r flwyddyn, mae llawer o ffrwythau  anaeddfed arni hi.  Ond os ydyn nhw  yn goroesi’r gaeaf, mi fyddan nhw’n aeddfedu blwyddyn nesaf. Felly, falle bydd cnwd porthi i gael yn yr haf.


Yn y cyfamser, mae’r pupurau wedi cael ei gasglu o’r tŷ gwydr.  Ar ol noson mor rhewllyd, doedden i ddim eisiau gadael nhw yna, a dyma nhw.  Mae nhw wedi gwneud mor dda, eleni, er, mae nhw'n hwyr ofnadwy yn aeddfedu.  Ond, fel gwelwch, o'r diwedd mae nhw yn troi'n goch.